Tri chap newydd yng ngharfan Cymru

Rhodri Williams Image copyright PA
Image caption Mae mewnwr y Scarlets Rhodri Williams ymhlith yr enwau newydd

Mae hyfforddwr rygbi Cymru Warren Gatland wedi cyhoeddi ei garfan ar gyfer gemau'r hydref.

Bydd Cymru'n herio De Affrica, Ariannin, Tonga ac Awstralia ar y pedwar penwythnos ym mis Tachwedd.

Mae tri chwaraewr yn y garfan sydd heb eto ennill cap i Gymru - sef Rhodri Williams o'r Scarlets, Cory Allen o'r Gleision ac Eli Walker o'r Gweilch.

Er gwaethaf sibrydion i'r gwrthwyneb, mae cefnwr Perpignan, James Hook, hefyd ymhlith yr olwyr.

Bydd cyfle i rai a gafodd gapiau yn Japan dros yr haf i wneud eu marc, sef Rhys Patchell ac Owen Williams o'r Gleision, a'r bachwr Emyr Phillips o'r Scarlets.

'Cyfres bwysig'

Mae Warren Gatland yn dychwelyd i weithio gyda Chymru ar ôl ei haf llwyddiannus yn arwain y Llewod i fuddugoliaeth yn Awstralia, a dywedodd:

"Mae gennym gyfres bwysig o'n blaenau wrth geisio profi ein hunain yn erbyn goreuon y byd, ond hefyd i geisio cryfhau'r garfan wrth edrych i'r dyfodol.

"Mae'r gêm gyntaf yn erbyn De Affrica yn anferth yn dilyn eu hymgyrch drawiadol nhw yn y Bencampwriaeth Rygbi yn hemisffer y de.

"Mae Cwpan Rygbi'r Byd llai na dwy flynedd i ffwrdd, felly rydym yn gobeithio adeiladu tuag at hynny drwy roi profiad rhyngwladol gwerthfawr i'n chwaraewyr."

Oherwydd anafiadau, nid yw prop Caerwysg Craig Mitchell, Rhys Gill o'r Saracens, Alex Cuthbert o'r Gleision na Jamie Roberts o Racing Metro ar gael ar gyfer y garfan.

Mae un chwaraewr wedi mynegi anfodlodrwydd am na chafodd ei gynnwys yn y garfan.

Ar ei wefan Twitter, dywedodd cefnwr Clermont Auvergne Lee Byrne: "Anhapus iawn i beidio cael fy nghynnwys yng ngharfan Cymru eto.

"Yn amlwg fe gafodd y garfan ei dewis i roi profiad i chwaraewyr newydd cyn Cwpan y Byd ac nid ar berfformiad ar hyn o bryd na gallu i chwarae."

CARFAN CYMRU, CYFRES YR HYDREF 2013

Blaenwyr: Scott Andrews (Gleision), Adam Jones (Gweilch), Aaron Jarvis (Gweilch), Paul James (Bath), Gethin Jenkins (Gleision), Ryan Bevington (Gweilch), Richard Hibbard (Gweilch), Ken Owens (Scarlets), Emyr Phillips (Scarlets), Alun Wyn Jones (Gweilch), Luke Charteris (Perpignan), Ian Evans (Gweilch), Bradley Davies (Gleision), Andrew Coombs (Dreigiau), Ryan Jones (Gweilch), Justin Tipuric (Gweilch), Sam Warburton (CAPT - Gleision), Toby Faletau (Dreigiau), Dan Lydiate (Racing Metro)

Olwyr: Rhodri Williams (Scarlets), Mike Phillips (Bayonne), Lloyd Williams (Gleision), Dan Biggar (Gweilch), Rhys Patchell (Gleision), Rhys Priestland (Scarlets), Jon Davies (Scarlets), Ashley Beck (Gweilch), Scott Williams (Scarlets), Cory Allen (Gleision), Owen Williams (Gleision), James Hook (Perpignan), George North (Northampton Saints), Eli Walker (Gweilch), Leigh Halfpenny (Gleision), Liam Williams (Scarlets).