Ofcom yn cadarnhau cwynion

Arglwydd McAlpine Image copyright PA
Image caption Mae Ofcom wedi cadarnhau'r ddwy gŵyn gan yr Arglwydd McAlpine

Mae'r corff sy'n rheoleiddio'r diwydiant darlledu, Ofcom, wedi cadarnhau dwy gŵyn yr Arglwydd McAlpine yn erbyn ITV a rhaglen Newsnight y BBC.

Cafodd yr Arglwydd McAlpine ei enwi'n gwbl anghywir fel testun ymchwiliad i honiadau o gam-drin plant mewn cartrefi plant yng ngogledd Cymru.

Daeth y gŵyn yn erbyn ITV wedi darllediad rhaglen This Morning yn ystod cyfweliad rhwng y cyflwynydd Phillip Schofield a'r Prif Weinidog David Cameron.

Yn ystod y cyfweliad dangosodd Mr Schofield restr o enwau i Mr Cameron oedd yn gysylltiedig â'r honiadau, meddai.

Cafodd y rhestr ei darlledu, ac roedd enw'r Arglwydd McAlpine arni.

Roedd y gŵyn yn erbyn rhaglen Newsnight yn sgil ymchwiliad y rhaglen i honiadau o gam-drin yng nghartref Bryn Estyn ger Wrecsam yn y 1970au a 1980au.

Er na chafodd yr arglwydd ei enwi ar y rhaglen, fe arweiniodd at ddyfalu ar y we lle cafodd ei enwi ar gam.

Ers y ddau ddigwyddiad, mae'r BBC ac ITV wedi ymddiheuro i ddo ac wedi talu iawndal sylweddol am ei enllibio.

Straeon perthnasol