Adroddiad: 'Yr heriau sy'n wynebu'r iaith'

Carwyn Jones
Carwyn Jones sy'n gyfrifol am bortffolio'r Gymraeg

Mewnlifiad ac all-lifiad ydy'r heriau mwyaf sy'n wynebu'r Gymraeg.

Dyna gasgliad adroddiad sydd wedi ei lunio ar ôl i Lywodraeth Cymru gasglu tystiolaeth gan bobl am yr iaith.

Roedd y llywodraeth wedi penderfynu cynnal ymgynghoriad Iaith Fyw: cyfle i ddweud eich dweud ar ôl i'r cyfrifiad yn 2011 ddangos bod yna gwymp yn nifer y bobl sydd yn medru siarad Cymraeg.

Daeth yr ymgynghoriad i ben gyda'r Gynhadledd Fawr yn Aberystwyth.

Dywedodd yr adroddiad fod angen ymateb i'r her sy'n wynebu'r Gymraeg pan mae pobl yn symud o un ardal i un arall.

Mae'r ddogfen yn dweud bod angen ystyried yr iaith o safbwynt yr economi ac y dylai Llywodraeth Cymru wneud mwy i farchnata'r Gymraeg ymhlith pobl ar lawr gwlad.

Mwy o Gymraeg ar y radio?

Mi gasglwyd tystiolaeth trwy holiadur ar-lein, sesiynau trafod a chynnal digwyddiad sef y Gynhadledd Fawr er mwyn trafod yr iaith.

Mi wnaeth 2,393 o bobl ymateb i'r holiadur gyda'r ganran uchaf, 21% yn dod o Gaerdydd. Roedd y rhan fwyaf yn gefnogol i'r Gymraeg ond roedd yna ganran fach o bobl oedd yn teimlo na ddylid hyrwyddo'r iaith a bod hi yn wastraff arian i wneud hynny.

Y themâu oedd yn codi ynglŷn â'r heriau i'r iaith oedd diffyg cyfleoedd i ddefnyddio'r Gymraeg yn y dwyrain.

Yn y gogledd a'r gorllewin y mewnlifiad a'r allfudo, efo pobl ifanc yn symud i ffwrdd, oedd un o'r prif bryderon.

Roedd y rhai wnaeth ymateb yn dweud bod angen gwella safon dysgu Cymraeg fel pwnc, diwygio'r nodyn cynllunio TAN 20, codi trethi ar ail gartrefi a sicrhau bod gweithwyr rheng flaen yn ddwyieithog.

Ymhlith yr awgrymiadau i gryfhau'r iaith oedd sefydlu ardaloedd adfywio, bod mwy o Gymraeg i'w glywed ar sianeli radio masnachol a gwneud yn siŵr bod 'na waddol yn cael ei adael ar ôl i'r eisteddfod genedlaethol fod yno.

Mentor lleol

Daeth rhwng 12-25 o bobl i bob un o'r sesiynau trafod unigol gyda 21 sesiwn yn cael eu cynnal. Roedd y rhai a ddaeth yn cytuno gyda nifer o'r ymatebion yn yr holiadur am yr heriau sydd yn wynebu'r iaith.

Roedd yr unigolion hefyd yn dweud bod diffyg hyder a'r ffaith bod yn rhaid i'r Gymraeg gystadlu yn erbyn y diwylliant Eingl-Americanaidd yn sialens.

Ymhlith rhai o'r syniadau ymarferol am yr hyn gellid gwneud oedd y dylai'r llywodraeth anfon cylchgrawn hyrwyddo at bob teulu, bod pobl yn bod yn fentor lleol er mwyn cefnogi rhieni a dechrau cynllun 'Mabwysiadu Mam-gu'.

Daeth 160 o bobl i'r Gynhadledd Fawr a'r rhain yn bobl oedd wedi cael eu gwahodd.

Rhai o'r pwyntiau a gododd yn y digwyddiad oedd bod angen polisi cryf ar yr iaith o fewn cynghorau lleol, creu 'marchnad lafur' trwy'r Gymraeg ac y dylai bob disgybl wneud Cymraeg fel pwnc llawn.

Dywedodd y Prif Weinidog Carwyn Jones: "Yr hyn sy'n amlwg o'r wybodaeth a gasglwyd gennym yw ein bod ar y trywydd iawn ond bod angen inni geisio magu hyder pobl i ddefnyddio'r iaith a gwneud yn siŵr bod cyfleoedd ar gael i bobl ddefnyddio eu Cymraeg bob dydd.

"Dyma rai o'r nifer o bethau rydyn ni'n eu hystyried wrth inni baratoi ein hymateb a byddaf yn gwneud datganiad ym mis Tachwedd i roi amlinelliad o'n camau nesaf."