Undeb Rygbi Cymru'n cynnig cytundebau

Sam Warburton Image copyright Getty Images
Image caption Mae Sam Warburton yn un fydd yn gweld ei gytundeb gyda'r Gleision yn dod i ben ar ddiwedd y tymor hwn

Bydd Undeb Rygbi Cymru yn cymryd cyfrifoldeb am gytundebau chwaraewyr rhyngwladol sydd â'u cytundebau'n dod i ben y tymor yma.

Daeth y cyhoeddiad yng nghanol trafodaethau am ddyfodol cystadlaethau Ewropeaidd yn Nulyn.

Mae rhanbarthau Cymru, sydd wedi datgan eu cefnogaeth i gystadleuaeth newydd gyda chlybiau Lloegr a Ffrainc, wedi dweud ei bod yn anodd cyllidebu ar gyfer y tymor nesaf tra bod ansicrwydd am gystadlu yn Ewrop.

Dywed yr Undeb eu bod yn cynnig cytundebu chwaraewyr "ar dermau priodol", ac yn cynnig y chwaraewyr dan sylw yn ôl i'r rhanbarthau os fydd yr anghydfod Ewropeaidd yn cael ei ddatrys.

Mae cytundebau nifer o sêr Cymru gan gynnwys Sam Warburton, Leigh Halfpenny, Jonathan Davies, Ian Evans, Alun Wyn Jones ac Adam Jones yn dod i ben ar ddiwedd y tymor.

Fe fyddan nhw felly yn rhydd i ddilyn chwaraewyr fel Mike Phillips, Jamie Roberts a George North i chwarae gyda chlybiau yn Ffrainc a Lloegr.

'Hyder'

Wrth wneud y cyhoeddiad, roedd undeb Rygbi Cymru'n pwysleisio eu bod yn hyderus y bydd y trafodaethau yn Nulyn yn llwyddo i ddatrys yr anghydfod.

Maen nhw yn arwain y trafodaethau o safbwynt Cymru er nad yw'r rhanbarthau yn rhan o'r trafodaethau.

Dywedodd y prif weithredwr Roger Lewis: "Rwyf am bwysleisio i'r chwaraewyr fod gennym hyder yn nyfodol y gêm ar y lefel uchaf yng Nghymru.

"Mae'n bwysig bod unrhyw chwaraewr sy'n ystyried ei ddyfodol ar hyn o bryd yn deall y lefel o gymorth y mae'r Undeb yn barod i'w gynnig.

"Ni fyddai'n briodol i fanylu am y trafodaethau gan ei bod yn iawn iddyn nhw gael eu cwblhau yn breifat, ond rwy'n parchu pryderon y chwaraewyr.

"Rwyf wedi trafod y cynnig yma gyda chadeiryddion y rhanbarthau ddydd Llun, ac rwy'n edrych ymlaen at dderbyn ymateb cadarnhaol."

Straeon perthnasol

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.