Y frech goch ar gynnydd eto

Nodwydd
Image caption Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn annog rhieni i frechu eu plant

Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru unwaith eto yn annog rhieni i frechu eu plant yn dilyn mwy o achosion o'r frech goch yn ardal Castell-nedd Port Talbot.

Bellach mae 13 o achosion o'r clefyd sy'n gysylltiedig ag Ysgol Cwmtawe, ond mae achos posib arall sydd heb gysylltiad amlwg â'r ysgol wedi dod i'r fei mewn meithrinfa yn Abertawe.

Fe ddaw'r achosion lai na phedwar mis wedi diwedd yr epidemig mwyaf o'r frech goch erioed yng Nghymru, gyda dros 1,200 o achosion o'r frech goch yn yr un ardal.

Mae ICC yn rhybuddio os na fydd plant yn cael dau ddos o'r brechiad MMR mae potensial i'r achosion ledu'n gyflym.

Dywedodd Dr Jörg Hoffmann o ICC: "Mae gennym achosion nid yn unig yn Ysgol Cwmtawe ond mewn dwy ysgol gynradd, coleg addysg bellach a meithrinfa, ac ymhob un o'r lleoedd yma mae yna blant sydd heb gael brechiad.

"Mae'r rhwystredig iawn gweld mwy o achosion o'r frech goch mor fuan wedi diwedd yr epidemig yn gynharach eleni ac rydym yn awyddus i roi stop ar hyn cyn i'r peth dyfu."

Straeon perthnasol

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.