Abertawe 1-1 Kuban Krasnodar

Michu Image copyright Arall
Image caption Michu: Eiliadau o ledrith

Cic o'r smotyn Cissé yn y funud ola' sicrhaodd bwynt i Kuban Krasnodar ar y Liberty yng Nghynghrair Europa.

Roedd Aberawe wedi bod ar y blaen oherwydd y dewin Michu yn y cwrt cosbi.

Nid oedd digon o dempo na chyflymder yn yr hanner cynta'.

Wedi 18 munud ergydiodd Nathan Dyer â'i droed chwith ond arbedodd y golwr Belenov.

Y pen arall bum munud yn ddiweddarach saethodd Maksim Zhavnerchik at y gôl ond yn ofer.

Cafodd Dwight Tiendalli gerdyn melyn wedi tacl ffyrnig.

Tempo

Wedyn cafodd Igor Armas gerdyn melyn am droseddu.

Yn yr ail hanner cyflymodd y tempo ychydig. Ergydiodd Álex Pozuelo â'i droed dda ond roedd yn aflwyddiannus.

Ugain munud cyn y diwedd sgoriodd Michu. Ychydig o eiliadau o ledrith yn y cwrt cosbi a'r bêl yng nghefn y rhwyd.

Cyn y gêm roedd rheolwr Abertawe Michael Laudrup wedi rhybuddio bod angen i'w dîm chwarae'n dda iawn.

"Pan ydych chi'n chwarae yn Ewrop a ddim yn chwarae 100% fe allwch chi golli. Mae mor syml â hynny," meddai.

"Nid yw ein gwrthwynebwyr yn wael. Mae ganddyn nhw chwaraewyr da."