Canlyniadau Uwchgynghrair Pêl-droed Cymru

Uwchgynghrair Cymru Corbett Sports Image copyright FAW

Bu pum gêm yn Uwchgynghrair Cymru Corbett Sports dros y penwythnos, gyda thair nos Wener a dwy brynhawn Sadwrn.

Yn y ddwy gêm brynhawn Sadwrn daeth buddugoliaeth i'r Drenewydd yn erbyn Y Bala o 2-1.

Yn y gêm hwyr, cafwyd gêm dda yn y Genquip wrth i Bangor ymweld â Phort Talbot.

Daeth y tair gôl i gyd yn yr hanner cyntaf - Port Talbot yn mynd ar y blaen cyn i Fangor unioni'r sgor ac yn cic o'r smotyn gan Chris Jones yn sicrhau'r pwyntiau llawn.

Canlyniadau nos Wener :-

Lido Afan 2-2Caerfyrddin

Airbus UK Brychdyn v Rhyl (gohiriwyd oherwydd y tywydd)

Prestatyn 2-2 Aberystwyth

Seintiau Newydd 5-0 Cei Connah