Norwich 0-0 Caerdydd

Clwb Pêl-droed Caerdydd Image copyright Getty Images

Norwich 0-0 Caerdydd

Doedd dim goliau yn Carrow Road ond roedd hynny yn bennaf oherwydd perfformiadau da gan y ddau golwr.

David Marshall oedd seren Caerdydd gyda chyfres o arbediadau gwych o ergydion gan Jonny Howson, Gary Hooper, Nathan Redmond a Leroy Fer.

Ond y pen arall roedd rhaid i John Ruddy fod ar ei orau i rwystro ergyd Jordan Mutch yn yr hanner cyntaf.

Mae'r canlyniad yn gadael Norwich yn y tri isaf yn y tabl gydag wyth pwynt.

Mae'r Adar Glesion un pwynt yn well ac yn y pymthegfed safle ar ôl naw gêm.