Cwpan FA: Sadwrn cymysg i dimau Cymru

Cwpan FA

Fe fydd Wrecsam yn rownd gyntaf Cwpan FA Lloegr wedi iddyn nhw ennill yn erbyn Hyde ar y Cae Ras ddydd Sadwrn.

Ond ni fydd Bae Colwyn yn ymuno â'r Dreigiau wedi iddyn nhw golli i Corby Town ar Ffordd Llanelian.

Y canlyniadau - pedwaredd rownd rhagbrofol Cwpan FA Lloegr :-

Bae Colwyn 1-3 Corby Town

Wrecsam 2-0 Hyde