Rygbi 13: Cymru 16-32 Yr Eidal

  • 26 Hydref 2013
Cais Rhodri Lloyd
Rhodri Lloyd sgoriodd ail gais Cymru

Daeth siom i Gymru yn eu gêm agoriadol yng Nghwpan Rygbi 13 y Byd yng Nghaerdydd.

Yn dilyn seremoni agoriadol ardderchog, enillodd Awstralia y gêm gyntaf yn y gystadleuaeth o 28-20 yn erbyn Lloegr.

Yn syth wedi hynny roedd Cymru'n dechrau eu hymgyrch nhw yn erbyn Yr Eidal, ond colli fu eu hanes.

Er nad yw'r Eidal yn draddodiadol yn un o fawrion y gamp, fe wnaethon nhw guro Lloegr mewn gêm baratoadol yr wythnos ddiwethaf.

Roedd y gêm yn un gyffrous gyda'r ddau dîm yn sgorio ceisiau bob yn ail. Yr Eidalwyr aeth ar y blaen yn gynnar gyda'r cyntaf o ddau gais gan Aiden Guerra, ond roedd hi'n gyfartal 6-6 wedi trosgais gan Ben Evans.

Fe sgoriodd Guerra ei ail ac fe ddaeth gôl gosb i'r ymwelwyr cyn i Rhodri Lloyd gau'r bwlch ychydig cyn yr egwyl gyda chais ardderchog.

Eidal yn dathlu
Sgoriodd Aiden Guerra dri chais i'r Eidal

Blinder

Wedi dim ond dau funud o'r ail hanner aeth Cymru ar y blaen am y tro cyntaf wrth i Elliot Kear groesi yn y gornel.

Ond bum munud yn ddiweddarach fe sgoriodd Josh Mantellato gais arall i'r Eidalwyr i'w gwneud hi'n 18-16.

Roedd Cymru dan bwysau am gyfnodau hir, ond eto'n amddiffyn yn wych i gadw'r Eidalwyr allan, ac roedden nhw'n edrych yn beryglus pan yn gwrthymosod.

Gydag ychydig dros ddeng munud yn weddill daeth ergyd fawr i Gymru pan groesodd James Tedesco am gais arall i'r Eidalwyr i'w gwneud hi'n 22-16.

Roedd yr ymdrech amddiffynnol wedi cael effaith ar Gymru, ac roedd y blinder yn amlwg wrth i Guerra groesi am ei hat-tric.

Daeth cais arall i Marc Minichello i roi halen ar y briw i'w Cymry yn y funud olaf.

Er bod y golled yn ergyd, mae gan Gymru obaith o hyd o gyrraedd rownd yr wyth olaf, ond mae'n rhaid ennill y ddwy gêm sy'n weddill.

Fe fydd Cymru'n wynebu'r Unol Daleithiau ar y Cae Ras yn Wrecsam ac yna Ynysoedd Cook ar y Gnoll yng Nghastell-nedd.