Dyn wedi ei ladd mewn gwrthdrawiad

  • 27 Hydref 2013

Fe gafodd dyn 27 oed ei ladd mewn gwrthdrawiad yn Wrecsam nos Sadwrn.

Dywedodd Heddlu'r Gogledd bod y dyn wedi bod mewn gwrthdrawiad â char Vauxhall Corsa lliw arian wrth gerdded ar yr A483 ger siop B&Q.

Fe gafodd y gwasanaethau brys eu galw i'r safle am 6:20pm nos Sadwrn.

Cafodd y dyn ei ladd yn y fan a'r lle. Arhosodd gyrrwr y car ar y safle i ddisgwyl am yr heddlu.

Mae Heddlu'r Gogledd yn apelio am dystion i'r digwyddiad, ac yn gofyn i bobl ffonio Cwnstabl Joanne Roberts ar 101 gan nodi'r cyfeirnod P177178.