Merched Lloegr 2-0 Merched Cymru

Helen Ward a Steph Houghton Image copyright PA
Image caption Helen Ward a Steph Houghton yn brwydro am y bêl

Sgoriodd Jordan Nobbs a Toni Duggan goliau yn yr ail hanner i sicrhau buddugoliaeth i ferched Lloegr yn erbyn Cymru yn rowndiau rhagbrofol Cwpan y Byd.

Lloegr sydd ar frig y grŵp gyda thair buddugoliaeth - yn erbyn Belarus, Twrci a Chymru - tra bod Cymru'n ail ond wedi chwarae un gêm yn llai.

Roedd Lloegr wedi rhoi cweir i Belarus a Thwrci yn eu dwy gêm gyntaf, ond fe brofodd Cymru yn brawf llymach o lawer.

Cryfhau wedi'r egwyl wnaeth Lloegr gan sgorio'r ddwyl gôl i sicrhau'r pwyntiau.

Daeth ergyd i obeithion Cymru pan fu'n rhaid i'w capten Jess Fishlock adael y maes gydag anaf i'w garddwrn.

Daeth dau gyfle i Gymru - y cyntaf pan roddwyd Helen Ward yn glir, ond methodd ag ergydio'n gywir, a'r ail pan beniodd Loren Dykes yn syth at golwr Lloegr.

Straeon perthnasol