Datgelu cynlluniau i gofio'r Rhyfel Mawr

Carwyn Jones yn Fflandrys
Image caption Aeth y Prif Weinidog Carwyn Jones i Fflandrys ym mis Medi i gefnogi ymgyrch i godi cofeb i filwyr o Gymru a laddwyd yn y Rhyfel Mawr

Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi y bydd £850,000 yn cael ei wario ar gynlluniau addysgol i gofio canrif ers dechrau'r Rhyfel Byd Cyntaf.

Mi wnaeth y Prif Weinidog, Carwyn Jones, y cyhoeddiad yn Amgueddfa'r Milwr Cymreig yng Nghastell Caerdydd fore Llun.

Bydd yr arian yn cael ei ddefnyddio i greu adnoddau digidol addysgol, ac i gynnal nifer o weithgareddau.

Mae gwefan arbennig - Cymru'n Cofio 1914-1918 - hefyd wedi cael ei sefydlu i nodi digwyddiadau a gwybodaeth am y canmlwyddiant.

Digwyddiadau addysgol a chymunedol

Yn ôl Mr Jones, mae'r rhyfel wedi cyffwrdd nifer o bobl mewn un ffordd neu'r llall: "Gan mlynedd wedi iddo gychwyn yn 1914, mae'n bwysig i ni gofio pob un a oedd yn rhan o'r Rhyfel Byd Cyntaf a'r effaith fawr a gafodd y gwrthdaro ar ffurf y Gymru fodern.

"Ychydig iawn o bobl yng Nghymru fydd ddim wedi teimlo effaith etifeddiaeth barhaus y Rhyfel Byd Cyntaf, p'un a ydyn nhw'n ymwybodol o hynny ai peidio. Dyna pam rydyn ni am i ddigwyddiadau addysgol a chymunedol chwarae rhan ganolog."

Un o ymgynghorwyr y cynlluniau yw Llywydd Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Syr Deian Hopkin.

Ar y Post Cyntaf ddydd Llun, dywedodd bod angen i bobl ystyried y rhesymau y digwyddodd y rhyfel: "Beth sydd yn bwysig ydy mai nid yn unig cofiant sydd yma ond ceisio deall, dealltwriaeth am sut yn y byd y digwyddodd y fath beth a pham y cafwyd y fath aberth a beth oedd y canlyniad."

Tra y bydd Prydain gyfan yn cofio, mae'n dweud y bydd digwyddiadau Cymru'n edrych nid yn unig ar y rhyfel ei hun, ond ar yr effaith gymuned. Bydd yna ffynonellau yn y Gymraeg yn ogystal â'r Saesneg.

Ychwanegodd: "Ry'n ni'n edrych ar y rhyfel a'r cyfnod ar draws y pynciau i gyd, nid yn unig yr ochr filwrol ond yr ochr gymdeithasol, effaith ar wragedd, effaith ar ffermio hyd yn oed a cheisio gweld y peth yn ei gyfanrwydd."

'Dim lle i ddathlu'

Cronfa Treftadaeth y Loteri sydd yn darparu nifer o grantiau ar gyfer amryw o brosiectau.

Mae Ysgol Maes Garmon yn Sir y Fflint wedi derbyn £10,000 er mwyn i ddisgyblion ymchwilio i effeithiau'r Rhyfel Byd Cyntaf ar drigolion yr ardal.

Ac yn Ysgol Gyfun Rhymni mae disgyblion ac oedolion o'r gymuned yng Nghaerffili yn defnyddio grant o £3,500 i gychwyn grŵp i ymchwilio i fywydau milwyr sydd â'u henwau ar gofeb yn adeilad yr ysgol.

Nid clodfori rhyfel fydd yn digwydd, meddai Syr Deian Hopkin, ond cofio a gwneud hynny ar y cyd gyda gwledydd eraill:

"Does dim lle i ddathlu dim byd yma. Dw i'n credu bydd rhai pobl yn gweld hyn fel cyfle i ddweud fod Prydain Fawr yn bwysig, roedd Ewrop efallai yn elyniaethus i ni.

Fflandrys

"Di ni'n credu bod hi'n bwysig ein bod ni'n edrych sut y gallwn ni greu perthynas well rhwng Cymru a gwledydd fel Fflandrys a'r Iwerddon a gwledydd eraill. Mae'n gyfle i ni ddod at ein gilydd i geisio cyfuno yn ein cofiant, nid yn unig dathlu ein llwyddiant."

Ym mis Medi aeth Carwyn Jones ar ymweliad â Fflandrys, yng Ngwlad Belg, er mwyn cefnogi ymgyrch i godi cofeb i filwyr o Gymru a laddwyd yn ystod y Rhyfel Mawr.

Mae ymgyrch Cofeb Cymru yn Fflandrys yn gobeithio codi cromlech yn Langemark.

Cyhoeddodd Mr Jones y bydd £25,000 o arian Llywodraeth Cymru yn mynd tuag at yr ymgyrch, ac mae wedi annog y cyhoedd i gyfrannu er mwyn codi £60,000 yn ychwanegol er mwyn rhoi draig goch metel fel rhan o'r gofeb hefyd.

Straeon perthnasol

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.