Cyfarfod yn trafod colli gwasanaethau bws

Arriva
Image caption Mae 46 o swyddi yn y fantol

Mae cyfarfod yn Aberystwyth wedi trafod colli gwasanaethau bws wedi i Arriva ddweud y bydden nhw'n dod i ben.

AC y Canolbarth a'r Gorllewin Joyce Watson drefnodd y cyfarfod am ei bod yn poeni nad oedd barn y gweithwyr wedi ei chlywed.

Roedd yn gyfarfod caeëdig lle oedd y ddwy ochr yn cyfnewid sylwadau a pharodd am dri chwarter awr.

Dywedodd yr AC Llafur y byddai'n casglu barn defnyddwyr cyn codi'r mater yn y Cynulliad.

Eisoes mae Llywodraeth Cymru wedi dweud y bydd cynllun brys dros dro'n helpu rhai gwasanaethau bws wedi i Arriva ddweud y bydden nhw'n dod i ben.

Fe allai canolfan yn Aberystwyth a gorsafoedd yng Nghei Newydd, Llambed a Dolgellau gau ar Ragfyr 21.

Yn ôl Edwina Hart, y Gweinidog Trafnidiaeth, bydd arian dros dro ar gael ar gyfer y gwsanaeth 94 o Wrecsam i'r Bermo.

Ar hyn o bryd mae gwasanaethau 20, 40, 40C, 50 a 585 o dan fygythiad yn sgil cyhoeddiad Arriva a allai olygu colli 46 o swyddi.

Straeon perthnasol