Mike Phillips am ddwyn achos yn erbyn clwb Bayonne

Mike Phillips Image copyright Arall
Image caption Ymunodd â Bayonne o'r Gweilch yn 2011 ac roedd ei gytundeb i fod tan Fehefin 2014.

Mae mewnwr Cymru Mike Phillips wedi dweud wrth ei dîm cyfreithiol i ddwyn achos yn erbyn clwb Bayonne.

Dywedodd ei fod yn rhwystredig am fod y clwb wedi ei ddiswyddo.

Hefyd dywedodd ei fod yn siomedig iddo glywed yn swyddogol am ei ddiswyddiad drwy ddarllen cyfweliad mewn papur newydd Ffrangeg fore Llun.

"Fe hoffen i ddiolch i fy nghydchwaraewyr a ffrindiau yng Ngwlad y Basg oherwydd eu help a'u caredigrwydd yn ystod y ddau dymor.

"O hyn ymlaen fe fydda' i'n canolbwyntio'n llwyr ar ymarfer gyda Chymru er mwyn ennill fy lle fel y galla' i helpu Cymru i gael ymgyrch lwyddiannus yn erbyn De Affrica, Awstralia, yr Ariannin a Tonga."

Ymunodd â Bayonne o'r Gweilch yn 2011 ac roedd ei gytundeb gyda'r clwb i fod tan Fehefin 2014.

Alcohol

Roedd gerbron bwrdd y clwb ddydd Mawrth oherwydd honiadau iddo gyrraedd sesiwn ddadansoddi fideo o dan ddylanwad alcohol.

Roedd dau chwaraewr arall - Dwayne Haare a Stephen Brett - yn wynebu'r un honiad ond Phillips gafodd ei wahardd.

Nos Iau fe ymddiheurodd Phillips i gefnogwyr Bayonne ar ei wefan Twitter.

Roedd Bayonne wedi ei wahardd am gamymddwyn oddi ar y cae o'r blaen a Chymru wedi ei wahardd yn 2011 oherwydd digwyddiad yng nghanol Caerdydd.

Straeon perthnasol