Cofio camp J Glyn Davies: cyfansoddwr, awdur ac ysgolhaig

J Glyn Davies
Roedd J Glyn Davies (ar y drol) yn mynd i Ben Llŷn yn aml

Mae gŵyl arbennig wedi dathlu cyfraniad un dyn i ganeuon y môr a cherddi Cymraeg.

Mae'r ŵyl, gafodd ei chynnal gan Amgueddfa Forwrol Llŷn a Phartneriaeth Tirlun Llŷn, yn cofio cyfraniad y cyfansoddwr, awdur ac ysgolhaig, J Glyn Davies.

Y nod oedd rhoi cyfle i bobl leol gofio am ei waith enwog a chyflwyno'r testun mewn ffordd newydd.

Roedd nifer o weithgareddau, gan gynnwys sgwrs, gig a thaith gerdded o bentref Edern, testun nifer o gerddi'r bardd.

Cyfansoddwr

Cafodd John Glyn Davies ei eni yn Lerpwl yn 1870 lle oedd ei dad yn ddyn busnes.

Bu'n ymweld â Phen Llŷn gydol ei blentyndod, yn enwedig pentref Edern lle oedd ei daid yn byw a dyna le magodd ei ddiddordeb mewn llongau a'r môr.

Roedd yn ddarlithydd a phennaeth yn Adran Gelteg Prifysgol Lerpwl o 1907 i 1936 a bu'n gweithio i gwmni llongau yn Lerpwl ac yn Seland Newydd am gyfnod.

Ond mae'n fwyaf enwog am ei waith fel cyfansoddwr a bardd.

Mae ei gyfrolau Cerddi Huw Puw (1923), Cerddi Robin Goch (1935) a Cherddi Porthinllaen (1936) yn cael eu cofio hyd heddiw.

Chwedeg mlynedd ers ei farwolaeth mae Amgueddfa Forwrol Llŷn a Thirlun Llŷn eisiau cofio ei gyfraniad arbennig i ddiwylliant Cymru.

'Polymath'

"Roedd o'n be' 'sa rhywun yn ei alw'n bolymath, dyn galluog ac eithriadol o dalentog," meddai Meinir Pierce Jones, Rheolwr Datblygu Amgueddfa Forwrol Llŷn.

J Glyn Davies
Mae cerddi J Glyn Davies i blant yn dal i gael eu cofio hyd heddiw

"Y cysylltiad hefo Pen Llŷn oedd ei fod yn dod ar ei wyliau i Edern lle'r oedd teulu ei dad o'n dod ... yno mi oedd o'n dod bob mis Awst, yno mi wnaeth ei Gymraeg llafar o wella.

"Roedd yn sgwennu'r caneuon i ddechrau i'w blant ei hun - doedd dim stwff Cymraeg o gwmpas ar y pryd.

"Wedi clywed y siantis 'ma oedd J Glyn Davies gan ei frawd Frank oedd wedi bod ar y môr, a gan hen longwyr ar y cei yng Nghaernarfon a Porthdinllaen.

"Felly yr hyn wnaeth o oedd gosod geiriau Cymraeg ar yr hen alawon."

Anturiaethau

Nos Fercher yn y Ganolfan, Nefyn, roedd Richard Morris Jones yn dangos ffilm archif am anturiaethau J Glyn Davies.

Yn Neuadd Dwyfor nos Sadwrn roedd gig i lansio CD newydd o ganeuon môr a siantis cyn taith gerdded o bentref Edern i gloi'r dathliadau.

Aled Hughes o fand Cowbois Rhos Botwnnog fu'n gweithio ar brosiect Codi Angor, CD o ganeuon y môr fel Santiana gyda threfniadau newydd.

"Roedd cael fy nannedd i mewn i gasgliad o recordiau newydd, a hynny ar gefndir o alawon gwerin yn swnio jyst y peth i mi," meddai.

'Profiad'

"Dros y misoedd bûm yn gweithio ar y caneuon mi ges i gyfle i recordio mewn nifer o leoliadau ac roedd hynny yn ei hun yn brofiad gwerth ei gael."

Dywedodd ei fod yn ddiolchgar i artistiaid lleol fel Al Lewis, Gwenan Gibbard, Gwyneth Glyn, Alaw Tecwyn, John ac Alun, Fflur ac Anni, Harri Richards.