Addysg Gymraeg yn 'fygythiad i addysg'

  • 30 Hydref 2013
Dosbarth Cymraeg ail iaith
Mae Dr Tim Williams yn dadlau nad oes sail addysgol i'r ddadl dros ddysgu pynciau trwy gyfrwng y Gymraeg

Mae adroddiad ar ddyfodol addysg Gymraeg wedi cael ei feirniadu'n hallt gan academydd sy'n dweud y byddai newidiadau yn niweidiol i addysg plant.

Yn ôl Dr Tim Williams, does dim sail addysgol i argymhelliad adroddiad 'Un Iaith i Bawb' y dylai rhai pynciau gael eu dysgu trwy gyfrwng y Gymraeg mewn ysgolion Saesneg eu hiaith.

Mewn erthygl ar wefan y Sefydliad Materion Cymreig, Click on Wales, mae Dr Williams yn sôn am ei gefndir fel un a ddysgodd y Gymraeg fel ail iaith, a wnaeth ddoethuriaeth ar Seisnigo Cymru yn y 19eg ganrif, athro cymwys a dreuliodd gyfnod yn gweithio i undeb athrawon, a chyn aelod grŵp ar safonau mewn addysg, cyn mynd ymlaen i ddadlau:

"Mae'r mwyafrif o addysgwyr - yn hytrach na diwygwyr ieithyddol - yn annog y defnydd o iaith y cartref mewn addysg, nid cyfrwng sydd prin yn cael ei ddefnyddio yn y cartref na'r gymuned.

"Yn rhyfedd iawn, ychydig a glywn ni o'r pryderon yma gan y rhai sy'n cefnogi adroddiad Sioned Davies (Un Iaith i Bawb)."

'Unfed awr ar ddeg'

Yr Athro Sioned Davies, pennaeth Ysgol y Gymraeg ym Mhrifysgol Caerdydd, oedd cadeirydd y grŵp wnaeth baratoi'r adroddiad ar ran Llywodraeth Cymru.

Mae'r adroddiad yn dweud nad yw dysgu Cymraeg fel ail iaith mewn ysgolion yn effeithiol fel dull o annog disgyblion i ddefnyddio'r iaith y tu allan i'r ysgol.

Pan gyhoeddwyd yr adroddiad ddechrau'r mis, dywedodd yr Athro Davies:

"Heb os mae hi'n unfed awr ar ddeg ar y Gymraeg fel ail iaith. Mae lefelau cyrhaeddiad disgyblion yn is nac y maen nhw mewn unrhyw bwnc arall. Petai hyn yn wir am Fathemateg, neu Saesneg, fe fyddai chwyldro wedi digwydd."

'Dim rheswm'

Ond yn ei erthygl yntau mae Dr Williams - sydd bellach yn byw ac yn gweithio yn Awstralia fel pennaeth cwmni Publicani - yn ychwanegu:

"Rwy'n pwysleisio fy mod yn credu y dylai pob plentyn yng Nghymru o gartrefi di-Gymraeg gael dysgu Cymraeg fel ail iaith fel nawr.

"Dyw'r ffaith nad yw hyn yn effeithiol wrth geisio gwneud plant fel hyn yn siaradwyr Cymraeg ddim yn rheswm i ymestyn y defnydd o'r Gymraeg fel cyfrwng addysgu i rannau eraill o'r cwricwlwm.

"Yn wir mae'n awgrymu'r rheswm pam na ddylen ni ddilyn trywydd gwrth-addysgol o'r fath. Pam defnyddio iaith lle nad yw'r plant yn rhugl ar gyfer rhywbeth mor hanfodol ag addysg?"

Llythyr

Cyn i'r adroddiad gael ei gyhoeddi roedd grŵp o bobl, gan gynnwys yr Archdderwydd Dr Christine James, ynghyd â nifer o wleidyddion ac academyddion wedi arwyddo llythyr at y Prif Weinidog Carwyn Jones yn galw am system addysg lle y byddai "pob disgybl yn rhugl yn yr iaith ac yn derbyn peth o'i addysg yn Gymraeg".

Wrth ymateb i sylwadau Dr Williams dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru:

"Rydym wedi ymrwymo i weld yr iaith Gymraeg yn ffynnu ac mae sicrhau fod mwy o blant yn siarad yr iaith yn rhan o hyn. Rydym hefyd yn ystyried argymhellion yr adolygiad annibynnol o ddarpariaeth addysg Gymraeg ail iaith a byddwn yn ymateb maes o law."

Mae Newyddion Ar-lein wedi gofyn i'r Athro Sioned Davies am ymateb i sylwadau Dr Williams.