Carcharu nain a thaid am ddirmyg llys

Alice Davies a Jaqueline Davies
Daeth yr awdurdodau o hyd i Jaqueline Davies a'i merch yn Rwsia

Mae nain a thaid merch bump oed oedd wedi diflannu wedi cael eu carcharu am 12 diwrnod am ddirmyg llys.

Roedd Brian a Patricia Davies o Bentyrch yng Nghaerdydd wedi gwrthod datgelu lleoliad eu merch Jaqueline Davies a'u hwyres Alice.

Cafodd modryb y plentyn, Melanie Williams, ei charcharu am 12 diwrnod am yr un drosedd.

Rwsia

Yna cafodd y tri eu rhyddhau yn syth gan eu bod eisoes wedi treulio'r amser dan glo.

Clywodd y llys fod Jaqueline Davies a'i merch Alice bellach wedi dod i'r fei yn Rwsia ac mae disgwyl iddyn nhw ddychwelyd i'r DU yr wythnos nesaf.

Yn adran deulu yr Uchel Lys dywedodd y barnwr Mr Ustus Keehan fod yr awdurdodau wedi dod o hyd i'r ddwy oherwydd cyhoeddusrwydd am yr achos.

Anghydfod

Roedd anghydfod wedi bod rhwng Ms Davies a thad ei merch, Julian Brown, peiriannydd nwy 49 oed o Aldershot.

Penderfynodd llys y dylai Mr Brown weld ei merch ond diflannodd y fam a'r ferch cyn i'r gorchymyn gael ei weithredu.

Dywedodd Mr Brown ddydd Mercher: "Dwi ar ben fy nigon gan nad wyf wedi gweld Alice ers dwy flynedd."