'Angen mwy o ACau'

Senedd
Image caption Wedi deddfu yn San Steffan, bydd Llywodraeth Cymru yn gallu penderfynu os a phryd i gynnal refferendwm ar ddatganoli rhan o'r dreth incwm

Mae Llywydd y Cynulliad Rosemary Butler wedi croesawu'r newyddion fod Llywodraeth Cymru yn mynd i dderbyn pwerau newydd.

Wedi i Lywodraeth San Steffan wneud y trefniadau bydd hawl gyda'r Cynulliad i alw refferendwm ar ddatganoli pwerau eraill hefyd i wneud gyda threth incwm.

Ond mae Ms Butler yn dweud bod y gwaith ychwanegol yn golygu bod angen aelodau ychwanegol.

Mae cadeirydd y comisiwn wnaeth lunio'r argymhellion - Paul Silk - hefyd wedi ymateb i'r cyhoeddiad heddiw, yn ogystal â chynrychiolwyr yr undebau.

'Sefydliad yn aeddfedu'

Image caption Yn ogystal â'i gwaith fel llywydd mae Ms Butler yn cynrychioli etholaeth Gorllewin Casnewydd fel AC

Wrth groesawu ymateb hir ddisgwyliedig Llywodraeth y DU i argymhellion y comisiwn wnaeth ystyried pa bwerau ariannol ddylai fod yn nwylo Llywodraeth Cymru, dywedodd Ms Butler:

"Bydd y Cynulliad yn fwy atebol i bobl Cymru, gan y bydd yn rhaid inni wneud penderfyniadau ynghylch sut y bydd yr arian a fydd ar gael i Lywodraeth Cymru yn cael ei godi, ac nid yn unig ynghylch sut y bydd yn cael ei wario.

"Bydd hwn yn gam sylweddol ymlaen yn y broses o sicrhau bod y sefydliad yn parhau i aeddfedu fel deddfwrfa lawn.

"Edrychaf ymlaen at ystyried ymateb Llywodraeth y DU yn fanwl, a'r goblygiadau i weithdrefnau a phrosesau'r Cynulliad. Fodd bynnag, mae'n glir i mi y bydd y datblygiad hwn yn golygu cyfrifoldebau ychwanegol i Aelodau.

'Cyfrifoldebau wedi newid'

Ychwanegodd: "Rwyf eisoes wedi datgan, yn fy nghyflwyniad i Gomisiwn Silk, fy mod o'r farn fod angen cynyddu nifer yr Aelodau Cynulliad sydd gennym o 60 i 80 er mwyn adlewyrchu'r modd y mae cyfrifoldebau'r Cynulliad wedi newid, a sut y mae ein llwyth gwaith wedi cynyddu, ers i'r Cynulliad gael rhagor o bwerau yn sgil y bleidlais gadarnhaol a gafwyd yn refferendwm 2011.

"Yn fy marn i, mae'r datganiad a gafwyd heddiw yn cadarnhau'r angen am Gynulliad sydd â chapasiti ehangach, ac am ragor o aelodau i graffu'n gadarn ar waith Lywodraeth Cymru o ran y penderfyniadau pwysig ac anodd a gaiff eu gwneud mewn perthynas â threthu a benthyca yng Nghymru."

Cadeirydd yn dweud ei farn

Roedd cadeirydd y Comisiwn ar Ddatganoli yng Nghymru, Paul Silk yn falch fod Llywodraeth y DU wedi "ymateb yn gadarnhaol i'n hadroddiad cyntaf..."

"Ynghyd â chytundeb Llywodraeth y DU ar ddefnydd pwerau benthyca presennol Llywodraeth Cymru ar gyfer prosiectau trafnidiaeth allweddol, mae cyhoeddiad heddiw yn gam pwysig i ddod â mwy o awdurdod a chyfrifoldeb i Gynulliad Cenedlaethol Cymru, rhywbeth rydyn ni'n credu sy'n angenrheidiol ar gyfer datganoli yng Nghymru.

"Fe wnaethom argymhellion yr oedden ni'n credu byddai'n cryfhau Cymru o fewn y Deyrnas Unedig, ac rydym yn edrych ymlaen at eu gweithredu."

Undebau'n cefnogi

Mae Cyngres yr Undebau Llafur wedi datgan eu bod yn falch o'r newidiadau a gyhoeddwyd gan David Cameron, gydag ysgrifenydd cyffredinol y TUC yng Nghymru yn cytuno gyda'r Prif Weinidog Carwyn Jones ynglŷn â'r penderfyniad i beidio datganoli trethi hedfan.

"Mae'n siomedig na fydd treth ar hedfan yn cael ei osod yng Nghymru gan y byddai hyn wedi rhoi cymorth i Lywodraeth Cymru ddelio gydag effaith camreoli blaenorol o fewn Maes Awyr Caerdydd," meddai.

"Mae'r egwyddor o ddatganoli treth incwm yn un positif ac fe wnawn ni chwarae rhan lawn yn y ddadl honno pan mae'r amser yn dod i bobl Cymru benderfynu.

"Ond mae angen datrys sefyllfa ariannu Cymru yn fwy cyffredinol cyn i hynny ddigwydd."

Straeon perthnasol

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.