Digwyddiadau'n dathlu bywyd actor yn Nyffryn Afan

Richar Burton
Cafodd yr actor ei eni ym Mhontrhydyfen

Nod nifer o ddigwyddiadau y mis hwn yw dathlu bywyd yr actor byd-enwog Richard Burton o Bontrhydyfen.

Tîm Twristiaeth Cyngor Castell-nedd Port Talbot sy' wedi trefnu'r digwyddiadau.

"Ddydd Sul mae Ras Etifeddiaeth Richard Burton yn dechrau, ras 10 cilometr sy'n denu rhedwyr o bob rhan o Brydain," meddai llefarydd.

"Yr un diwrnod mae arddangosfa yng Nghanolfan Gymunedol Cwmafan yn cynnwys deunydd o archifau Prifysgol Abertawe.

"Mae'r hanesydd lleol Allen Blethyn yn bresennol."

Taith gerdded

Bydd taith gerdded ar hyd Llwybr y Man Geni ym Mhontrhydyfen ar Dachwedd 4 ac un arall ar hyd y Llwybr Plentyndod yn Nhaibach a chanol Port Talbot ar Dachwedd 23.

Ar Dachwedd 20 yn Llyfrgell Taibach bydd yr Athro Chris Williams o Brifysgol Caerdydd, golygydd dyddiaduron yr actor, yn trafod ei fywyd.

Dechreuodd y dyddiaduron pan oedd yr actor yn blentyn yn Nhaibach.

Ar Dachwedd 27 yn Nhafarn y Glowyr ym Mhontrhydyfen bydd y ffilm ddogfen In From the Cold? The World of Richard Burton yn cael ei dangos a'r cyfarwyddwr Tony Palmer yn ateb cwestiynau.

Dywedodd arweinydd y cyngor Ali Thomas: "Richard yw un o'n meibion enwoca' ... ac rwy'n siŵr y bydd llawer o bobol leol a rhai tu hwnt yn gwerthfawrogi mwy o wybodaeth am y dyn lleol ddaeth yn actor yn Hollywood."