Canlyniadau Uwchgynghrair Pêl-droed Cymru

Image copyright FAW

Caerfyrddin v. Seintiau Newydd

Cafodd hon ei gohirio.

Y Drenewydd 2-0 Port Talbot

Hon oedd yr anrheg orau bosib' i'r rheolwr Bernard McNally cyn ei swydd newydd, pennaeth ieuenctid tîm Amwythig.

Craig Williams lwyddodd gyda'i gic o'r smotyn cyn i Luke Boundford selio'r fuddugoliaeth naw munud cyn y diwedd.

Rhyl 3-0 Lido Afan

Lido Afan yn colli wyth gêm o'r bron.

Mark Cadwallader yn rhoi Rhyl ar y blaen wedi pedair munud cyn i Chris Hartland rwydo yn ei gôl ei hun.

Sgoriodd Cadwallader ei ail gôl wedi 64 o funudau.