Apêl heddlu wedi gwrthdrawiad

Mae'r heddlu'n apelio am wybodaeth yn dilyn gwrthdrawiad ar ffordd yn Wrecsam nos Sadwrn.

Cafodd dyn 24 oed ei daro gan dacsi ar y gornel rhwng Ffordd Salop a St Giles' Way am tua 11:30pm.

Fe gafodd y dyn ei gludo i Ysbyty Gwynedd ym Mangor, a deellir ei fod mewn cyflwr difrifol.

Mae'r heddlu yn gofyn i unrhyw un a welodd y digwyddiad i gysylltu â nhw drwy ffonio 101 a nodi'r cyfeirnod P181326.