Caerdydd 1-0 Abertawe

Gol Caulker
Image caption Stephen Caulker sgoriodd gôl Caerdydd

Yn ôl y disgwyl roedd hi'n gêm gystadleuol yn Stadiwm Dinas Caerdydd.

O ystyried helyntion y ddau glwb dros y ddwy flynedd ddiwethaf, doedd hi'n ddim syndod chwaith mai Abertawe greodd y cyfleoedd yn gynnar yn y gêm, ond roedd hi'n syndod gweld Michu a Nathan Dyer yn methu dau gyfle da yn y deng munud cyntaf.

Tarodd Michu ergyd dros y trawst o chwe llath pan fyddai rhywun wedi disgwyl iddo daro'r nod, ac fe arbedwyd ergyd arall gan y Sbaenwr gan David Marshall.

Image caption Roedd tacl Shelvey ar Medel yn nodweddiadol o gêm gystadleuol

Aeth ergyd Dyer ymhell dros y trawst pan fyddai disgwyl gwell.

Roedd hi'n amlwg bod rhywfaint o ofn colli gêm mor fawr ar y ddau dîm, ac roedd gweddill yr hanner cyntaf yn gystadleuol ond heb i'r naill dîm na'r llall greu cyfleoedd clir.

Wedi'r egwyl fe gafodd y tîm cartref gyfnod da o bwyso, ond yn rhy aml doedd y bas olaf ddim yn ddigon cywir.

Fe darodd Peter Whittingham ergyd heibio'r postyn, ac fe ddaeth Don Cowie o fewn modfeddi i gyrraedd croesiad o flaen gôl.

Yn y diwedd fe dalodd y pwysau ar ei ganfed i Gaerdydd.

Fe ddaeth y gôl o gic gornel Craig Bellamy, ac i roi halen ar friwiau Abertawe eu cyn chwaraewr nhw Stephen Caulker sgoriodd y gôl.

Fe ddaeth Abertawe yn ôl, ac am y munudau cloi roedd gôl Caerdydd o dan warchae.

Ond roedd mwy o ddrama. Wrth i Gaerdydd wrthymosod yn y funud olaf, fe gafodd Fraizer Campbell ei dynnu i'r llawr gan Michel Vorm, golwr Abertawe, ac fe welodd yr Iseldirwr y cerdyn coch.

Gan fod Abertawe wedi defnyddio'u heilyddion i gyd roedd yn rhaid i Angel Rangel wisgo menig y golwr.

Pan ddaeth y chwib olaf wedi pum munud o amser ychwanegol fe ddechreuodd y dathliadau mawr yn y brifddinas.

Mae'r fuddugoliaeth yn codi Caerdydd uwchben Abertawe yn nhabl yr Uwchgynghrair.