Cap cynta' i Eli Walker yn erbyn y Springboks

Eli Walker Image copyright Huw Evans picture agency
Image caption Mae Eli Walker wedi ei gynnwys yn y tîm am y tro cynta' i wynebu De Affrica ddydd Sadwrn

Mae Warren Gatland wedi cyhoeddi'r tîm i wynebu De Affrica yng ngêm gynta' Cymru yng nghyfres yr hydref ddydd Sadwrn.

Bydd asgellwr y Gweilch, Eli Walker, yn ennill ei gap cynta', tra bod maswr y Scarlets Rhys Priestland a'r blaenasgellwr Dan Lydiate yn dychwelyd ar ôl anafiadau.

Does yr un o'r ddau wedi chwarae gêm ryngwladol ers haf 2012.

Bydd prop y Gleision Gethin Jenkins yn ennill ei 99ain cap, wrth iddo ymuno â Richard Hibbard ac Adam Jones o'r Gweilch ar y rheng flaen.

Bradley Davies o'r Gleision ac Alun Wyn Jones o'r Gweilch sy'n ffurfio'r ail reng, tra bod y rheng ôl yn cynnwys tri o sêr y Llewod, Dan Lydiate (Racing Métro), y capten Sam Warburton (Gleision) a Toby Faletau (Dreigiau).

Mae lle yn y tîm hefyd i Mike Phillips, Scott Williams, Jonathan Davies, George North a Leigh Halfpenny.

'Angen dechrau'n dda'

Y gêm yn erbyn De Affrica yw'r gynta' ym mhedair gêm cyfres yr hydref yn Stadiwm y Mileniwm.

Dywedodd Warren Gatland: "Ry'n ni o hyd yn dweud ein bod yn hoffi profi'n hunain yn erbyn y gorau a dyna'n union fydd yn digwydd ddydd Sadwrn, gyda gêm enfawr i ddechrau yn erbyn De Affrica.

"Mae'r Springboks yn dod i'r DU ar ôl ymgyrch wych yn y bencampwriaeth ac rwy'n gwybod ein bod ni angen dechrau'n dda.

"Ry'n ni'n mynd mewn i'r gyfres fel pencampwyr y Chwe Gwlad ond ry'n ni'n edrych 'mlaen i brofi'n hunain yn erbyn timau hemisffer y de a dangos beth ry'n ni'n gallu gwneud.

"Ers i ni ddod at ein gilydd mae'r gystadleuaeth o fewn y garfan wedi bod yn dda ac mae'n wych fod Rhys a Dan ar gael i ni eto.

"Mae Eli wedi perfformio'n dda i'w ranbarth a gyda ni ac mae'n gyfle gwych iddo wneud ei farc fel rhan o dîm profiadol iawn."

CYMRU:

Leigh Halfpenny (Gleision), George North (Northampton Saints), Jonathan Davies (Sgarlets), Scott Williams (Sgarlets), Eli Walker (Gweilch), Rhys Priestland (Sgarlets), Mike Phillips (heb glwb), Gethin Jenkins (Gleision), Richard Hibbard (Gweilch), Adam Jones (Gweilch), Bradley Davies (Gleision), Alun Wyn Jones (Gweilch), Dan Lydiate (Racing Metro), Sam Warburton (Gleision, Capten), Toby Faletau (Dreigiau).

Eilyddion: Ken Owens (Sgarlets), Paul James (Caerfaddon), Scott Andrews (Gleision), Luke Charteris (Perpignan), Justin Tipuric (Gweilch) Lloyd Williams (Gleision), James Hook (Perpignan), Liam Williams (Sgarlets).

Straeon perthnasol

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.