Cofio am filwyr Cymru

Croesau
Mae neges bersonol ar bob un o'r croesau fydd yn cael eu gosod

Bydd y Prif Weinidog ymhlith nifer o bobl fydd yn cofio am filwyr o Gymru bu farw mewn rhyfeloedd mewn seremoni arbennig yng Nghaerdydd yn ddiweddarach.

Bydd Carwyn Jones yn agor gardd goffa yng nghastell y ddinas, lle bydd 15,000 o groesau pren yn cael eu gosod er cof am y milwyr.

Mae'r ardd yn un o chwech dros y DU, ac mae pob croes yn cynnwys neges bersonol i un o'r milwyr sydd wedi marw.

Dywedodd Mr Jones na ddylem anghofio am aberth pobl arferol dros Gymru.

"Rydym yn ddyledus i'n lluoedd arfog a'r cyn-filwyr," meddai'r Prif Weinidog.

"Mae hwn yn gyfle i ni ystyried eu hymrwymiad, gwasanaeth ac aberth."

'Braint'

Dywedodd Mr Jones bod ei daith ddiweddar i Wlad Belg wedi bod yn brofiad pwysig.

"Ym mis Medi roeddwn i yng Ngwlad Belg i ymweld â nifer o safleoedd lle'r oedd milwyr Cymreig wedi ymladd dros eu gwlad, ac roedd yn fraint cael clywed y biwgl canu er cof am y milwyr yn Menin Gate.

"Ar y daith cefais fy atgoffa am yr aberth mae gymaint o bobl Gymreig yn ei wneud dros eu gwlad, gyda llawer yn colli eu bywydau ymhell o'u cartrefi a'u teuluoedd.

"Mae'n bwysig ein bod ni yn cofio, ac yn parhau gyda'r traddodiad o gofio fel na fydd cenhedloedd y dyfodol yn anghofio am yr hyn wnaeth bobl arferol o Gymru i ni."

Ym mis Tachwedd bob blwyddyn, mae'r Llynges Brydeinig yn creu caeau coffa ar draws y DU, i gofio am bob un sydd wedi marw wrth wasanaethu gyda'r fyddin.

Bydd y seremoni yn dechrau am 10.00yb, cyn i'r Prif Weinidog ddarllen teyrnged yn y Gymraeg, a dwy funud o dawelwch er cof am y milwyr.