Difrodi Pont Briwet yn effeithio ar drenau

Pont Briwet
Image caption Dywedodd llefarydd ar ran Trenau Arriva Cymru fod peirianwyr yn asesu'r sefyllfa.

Mae difrod ar bont yn amharu ar wasanaeth trenau rhwng Penrhyndeudraeth a Llandecwyn.

Dywedodd llefarydd ar ran Trenau Arriva Cymru: "Am resymau diogelwch ni all trenau groesi Pont Briwet oherwydd difrod."

Roedd peirianwyr yn asesu'r sefyllfa, meddai.

Mae gwasanaeth bysus ar gael rhwng Harlech a Phwllheli a'r manylion ar y wefan ganlynol.