Dyn yn euog o ladd ei ffrind

  • 6 Tachwedd 2013
Danny Jones
Bu farw Danny Jones, 21 oed.

Mae dyn wedi ei gael yn euog o ladd ei ffrind gyda chleddyf wrth iddyn nhw ymladd mewn maes parcio.

Bu farw Danny Jones, 21 oed o'r Waun ger Wrecsam, o anaf trywanu wedi i'r ddau fod ar noson allan yng Nghroesoswallt ym mis Ebrill.

Penderfynodd y rheithgor fod Richard Adam Reece, 19 o Groesoswallt, yn ddieuog o lofruddiaeth ond yn euog o ddynladdiad.

Bydd yn cael ei ddedfrydu yn Llys y Goron Birmingham yn ddiweddarach.

Clywodd y rheithgor bod y ddau ddyn yn adnabod ei gilydd yn dda ac wedi treulio'r noson yn yfed gyda'i gilydd.

Fe wnaethon nhw ddadlau ym maes parcio Oak Street yn y dref, ac fe gafodd Mr Jones, cyfrifydd dan hyfforddiant, ei drywanu gyda llafn 30cm o hyd a gafodd ei ddisgrifio fel cleddyf addurniadol.

Bu farw yn yr ysbyty yn ddiweddarach wrth iddo gael llawdriniaeth frys.