Mynd i'r afael â 'diffyg democratiaeth'

Rosemary Butler
Image caption Yn ôl Rosemary Butler dyw'r wasg ddim digon clir ynglŷn â pa faterion sydd wedi ei datganoli i Gymru

Mewn araith yng Nghaerdydd heno bydd llywydd y Cynulliad yn cyhoeddi sut mae'r Cynulliad yn bwriadu mynd i'r afael gyda'r hyn sy'n cael ei ddisgrifio fel "diffyg democratiaeth".

Mae Rosemary Butler wedi bod yn llywyddu ers i Dafydd Elis-Thomas roi'r gorau i'r swydd yn 2011 ac mae hi'n ddiweddar wedi tynnu sylw at y diffyg sylw mae'r Cynulliad yn ei gael yn y cyfryngau ar sawl achlysur.

Yn ystod ei darlith yn adeilad y Pierhead bydd Ms Butler yn dweud fod y diffyg hwn yn "un o'r problemau mwyaf difrifol sy'n wynebu'r broses ddatganoli yng Nghymru".

Yn dilyn trafodaethau dros yr haf bydd y llywydd yn cyhoeddi nifer o gamau fydd yn cael eu cymryd er mwyn gwella'r ffordd mae gwaith y Cynulliad yn cael ei adrodd.

'Dwyn i gyfrif'

Bydd Ms Butler yn siarad o flaen darlith flynyddol y Gymdeithas Deledu Frenhinol sy'n cael ei rhoi gan gyn newyddiadurwr News International - News UK bellach - Guto Harri.

Yn siarad cyn y digwyddiad, dywedodd y llywydd: "Yr hyn yr wyf yn ei olygu drwy 'ddiffyg democrataidd" yw pwy sy'n cyfleu, neu efallai'n bwysicach, pwy fydd yn cyfleu gwaith y Cynulliad Cenedlaethol i bobl Cymru yn y dyfodol, ac yn ymgymryd â'r rôl hanfodol honno o ddwyn y rhai sy'n gwneud penderfyniadau yma ym Mae Caerdydd i gyfrif?

"Mae gennym gyfryngau darlledu a phrint yn y DU sy'n methu ag adrodd am y gwahaniaethau enfawr mewn agwedd tuag at bolisi cyhoeddus mewn meysydd datganoledig fel iechyd ac addysg.

"Mae'n golygu bod eu cynulleidfaoedd Cymreig sylweddol yn aml yn cael gwybodaeth nad yw'n berthnasol iddynt.

"Yn ystod misoedd yr haf rydym wedi bod yn edrych ar rai o'r syniadau diddorol hynny ac yn ffurfio ymateb, gan gynnwys rhai cynigion arloesol.

"Mae llawer ohono'n canolbwyntio ar ba gymorth y gellir ei roi i'r llwyfannau digidol sy'n ymddangos o ran cynnwys gwaith y Cynulliad."

Camau gweithredol

Yr hyn mae'r Cynulliad yn fwriadu ei wneud er mwyn ceisio codi ymwybyddiaeth o'r gwaith sydd yn digwydd yno yw:

  • Gweithio gyda'r cyfryngau digidol a hyperleol, a chyrff sy'n bartneriaid, i greu canolbwynt newyddiaduraeth yn y Senedd, a allai gynnwys y sianeli digidol newydd hyn;
  • Ei gwneud yn haws i adrodd am waith y Cynulliad drwy ddarparu gwell cyfleusterau cyfathrebu ar ystâd y Cynulliad;
  • Gwneud data'r Cynulliad yn fwy agored a hygyrch;
  • Sicrhau bod Aelodau'r Cynulliad yn hollol hyddysg ynglŷn â'r ffordd orau i ddefnyddio'r offer cyfathrebu sydd bellach ar gael yn yr oes ddigidol hon;
  • Gweithio'n agosach â sefydliadau'r cyfryngau i fynd â'r Cynulliad allan i'r cymunedau y mae'n eu cynrychioli gyda chyfres o ddyddiau'r wasg y Cynulliad yn y rhanbarthau; a
  • Gweithio hefyd gyda'r sefydliadau hynny i ddarparu sesiynau anwytho ar gyfer newyddiadurwyr dan hyfforddiant er mwyn sicrhau gwell dealltwriaeth o waith y sefydliad.

'Chwarae ei ran'

"Mae'n rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol chwarae ei ran, ac fe wnaiff hynny," meddai'r llywydd.

"Edrychaf ymlaen at weithio'n agos â phawb sydd â diddordeb mewn sicrhau lluosogrwydd y sylw gan y cyfryngau a'r gwaith o graffu ar Gynulliad Cenedlaethol Cymru, er mwyn troi ein trafodaethau am y diffyg democrataidd yn weithredoedd cadarnhaol."

Testun darlith Guto Harri yw 'Wales: Not on Their Radar'.

Dywedodd yn gynharach y flwyddyn hon bod cyfrifoldeb ar y wasg i wneud eu darllediadau yn fwy gafaelgar.

"Mae yna broblem yng Nghymru achos dyw'r wasg gynhenid ddim wastad mor gryf, mor annibynnol, mor bigog ag y dylai fod," meddai ym mis Medi.

"Mae'r prif gyfrifoldeb ar y wasg yng Nghymru i wneud eu gwaith yn drylwyr ac yn ddiddorol - yn y pen draw does dim pwynt gwneud rhaglenni sych cyfrifol os nag yw'n nhw'n afaelgar. Mae'r cyfrifoldeb pennaf ar bobl yng Nghymru."

Straeon perthnasol

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.