Eli Walker allan o'r gêm

Eli Walker Image copyright Huw Evans picture agency
Image caption Roedd Eli Walker yn wreiddiol yn y tîm am y tro cynta' - i wynebu De Affrica

Mae asgellwr y Gweilch Eli Walker, oedd i fod i ennill ei gap cyntaf i Gymru yn erbyn De Affrica ddydd Sadwrn, wedi cael anaf fydd yn ei gadw allan o'r gêm.

Cyhoeddodd yr hyfforddwr Warren Gatland y byddai Liam Williams o glwb y Scarlets yn ei lel.

Cafodd Walker anaf i linyn y gâr wrth ymarfer fore Iau.

Bydd Ashley Beck yn ymuno â'r garfan i lenwi'r bwlch ar y fainc.

CYMRU:

Leigh Halfpenny (Gleision), George North (Northampton Saints), Jonathan Davies (Scarlets), Scott Williams (Scarlets), Liam Williams (Scarlets), Rhys Priestland (Scarlets), Mike Phillips (heb glwb), Gethin Jenkins (Gleision), Richard Hibbard (Gweilch), Adam Jones (Gweilch), Bradley Davies (Gleision), Alun Wyn Jones (Gweilch), Dan Lydiate (Racing Metro), Sam Warburton (Gleision, Capten), Toby Faletau (Dreigiau).

Eilyddion: Ken Owens (Scarlets), Paul James (Caerfaddon), Scott Andrews (Gleision), Luke Charteris (Perpignan), Justin Tipuric (Gweilch) Lloyd Williams (Gleision), James Hook (Perpignan), Ashley Beck (Gweilch).

Straeon perthnasol

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.