Kuban Krasnodar 1-1 Abertawe

Image copyright Arall
Image caption Wilfred Bony: Y gôl gynta'

Kuban Krasnodar 1-1 Abertawe

Cafodd Abertawe siom yng Nghynghrair Ewropa am yr ail dro.

Sgoriodd Ibrahima Baldé gôl yn yr eiliadau ola' wedi pas grefftus Ivelin Popov.

Roedd cic gosb Cisse wedi golygu pwynt i'r Rwsiaid yn y Liberty yn y cymal cynta'.

Yn Rwsia roedd ergyd isel lwyddiannus Wilfried Bony wedi rhoi gobaith i'r Elyrch fod buddugoliaeth ar y ffordd.

Doedd hi ddim yn argoeli'n dda i'r Rwsiaid am fod Xanado wedi cael ail garden felen wedi iddo droseddu yn erbyn Alvaro Vazquez.

Ond Baldé chwalodd y freuddwyd yn y funud ola'.

Bydd Abertawe yn chwarae gartre' yn erbyn Valencia ar Dachwedd 28 cyn herio St Gallen oddi cartre'.