Heddlu'n dod o hyd i lanc fu ar goll

Alexander Jones Image copyright other
Image caption Doedd neb wedi gweld Alexander Jones ers iddo adael ei gartre' yn Wrecsam nos Sul

Mae'r heddlu fu'n chwilio am lanc o Wrecsam sydd wedi bod ar goll ers Tachwedd 3 wedi dod o hyd iddo ym Manceinion.

Doedd neb wedi gweld Alexander Jones, 13 oed, ers nos Sul pan adawodd ei gartref yn Wrecsam gyda'r nos.

Ddydd Gwener dywedodd Heddlu'r Gogledd eu bod wedi dod o hyd iddo yn ddiogel ac yn iach yn ardal Manceinion.