Warburton: 'Rhaid i ni guro'

Sam Warburton
Image caption Mae Sam Warburton yn gwybod bod gemau'r hydref yn cyfri

Mae'n rhaid i Gymru ddechrau curo timau hemisffer y de cyn iddyn nhw allu ystyried eu hunain i fod yn ymgeiswyr go iawn ar gyfer Cwpan y Byd.

Dyna yw barn y capten Sam Warburton, a lle gwell i wneud hynny nag yng nghymal cyntaf gemau'r hydref yn erbyn De Affrica?

Dim ond unwaith mae'r Cymry wedi llwyddo i gael y gorau o'r deheuwyr yn ystod cyfnod Warren Gatland fel hyfforddwr - hyd yn hyn.

"Dyw e ddim yn rhywbeth neis i'w gyfadde' ond efallai ei fod e'n broblem seicolegol," meddai Warburton cyn y gêm.

'Rhaid curo'

Gan gyfeirio at lwyddiant y Llewod dros yr haf, dywedodd: "Cyn ein bod ni wedi ei wneud e mewn crys Cymru, fydd e ddim yr un fath.

"Nes ein bod ni wedi curo tîm o hemisffer y de allwn ni ddim galw'n hunain yn ymgeiswyr ar gyfer Cwpan y Byd."

Mae'r Springboks yn dod i Gaerdydd mewn hwyliau uchel wedi perfformiadau da ym mhencampwriaeth hemisffer y de.

Bydd 10 o'r chwaraewyr a gollodd 38 - 27 yn erbyn Seland Newydd yn Johannesburg fis diwethaf yn dechrau'r gêm yn Stadiwm y Mileniwm - gan gynnwys eu capten ysbrydoledig Jean de Villiers.

'Brwydr ffyrnig'

Yn siarad wrth i'w dîm baratoi ar gyfer yr ornest, dywedodd de Villiers: "Yn amlwg rydym yn siomedig efo diwedd y bencampwriaeth, ond rydym wedi bod yn paratoi yn dda ac mae yna nifer o bethau positif i ni gymryd allan o'r gêm yn erbyn Seland Newydd.

"Mae'n rhaid i ni chwarae yn dda am 80 munud.

"Da ni'n gwybod y bydd hi'n frwydr ffyrnig, yn erbyn tîm o ansawdd uchel.

Image caption Mae Jean de Villiers yn gwybod bod her yn ei wynebu

"Y gêm gyntaf yw'r un galetaf ac er mwyn cael taith lwyddiannus mae'n rhaid i ni ddechrau' yn dda yn erbyn Cymru.

"Yn amlwg mae chwaraewyr Cymru yn teimlo'n hyderus ar ôl taith y Llewod, ond nid y tîm yna ydan ni'n wynebu."

'Ceisio ein bwlio'

Un sy'n credu fod gan Gymru'r gallu i gael canlyniad yw'r darlledwr Jonathan Davies.

"Bydd De Affrica yn dod yma ac yn ceisio ein bwlio," meddai, "maen nhw reit lan yn eich wynebau - all Cymru ddim cymryd cam yn ôl.

"Mae'n rhaid i Gymru ddefnyddio lled y cae a symud y tîm yma o Dde Affrica o gwmpas.

"Y rheswm am ein problemau yn y gorffennol oedd ein bod ni ddim ddigon da. Ond anghofiwch am hynny.

"Mae'r bechgyn yma ddigon da i'w curo nhw."

Y ddwy garfan

Roedd asgellwyr y Gweilch Eli Walker yn edrych ymlaen at dynnu'r crys coch ymlaen am y tro cyntaf ond fe gafodd ei anafu mewn sesiwn hyfforddiant ac felly mae Liam Williams wedi cael ei alw fyny yn ei le.

Mike Phillips fydd yn dechrau fel mewnwr - er gwaethaf ei broblemau diweddar - a bydd y Rhys Priestland a Dan Lydiate yn chwarae am y tro cyntaf y flwyddyn hon wedi i'r ddau wella o anafiadau trwm.

Y Springboks sydd wedi eu galw i mewn i'r tîm ers eu gem ddiwethaf yw'r cefnwr, Jaque Fourie, Pat Lambie, asgellwr, JP Pietersen, asgellwr, Flip van der Merwe, clo, a'r prop Frans Malherbe sydd yn dechrau ei gem gyntaf.

Does dim lle yn y garfan o 23 i'r clo profiadol Bakkies Botha.

Ymunodd Botha sy' nawr yn chwarae i Toulon yn Ffrainc gyda'r sgwad ddydd Mawrth.

Tîm Cymru

15-Leigh Halfpenny, 14-George North, 13-Jonathan Davies, 12-Scott Williams, 11-Liam Williams, 10-Rhys Priestland, 9-Mike Phillips; 1-Gethin Jenkins, 2-Richard Hibbard, 3-Adam Jones, 4-Bradley Davies, 5-Alun Wyn Jones, 6-Dan Lydiate, 7-Sam Warburton (c), 8-Toby Faletau.

Eilyddion: 16-Ken Owens, 17-Paul James, 18-Scott Andrews, 19-Luke Charteris, 20-Justin Tipuric, 21-Lloyd Williams, 22-James Hook, 23-Ashley Beck.

Tîm De Affrica

15-Pat Lambie, 14-JP Pietersen, 13-Jaque Fourie, 12-Jean de Villiers, 11-Bryan Habana, 10-Morne Steyn, 9-Fourie du Preez; 1-Tendai Mtawarira, 2-Bismarck du Plessis, 3-Frans Malherbe, 4-Eben Etzebeth, 5-Flip van der Merwe, 6-Francois Louw, 7-Willem Alberts, 8-Duane Vermeulen.

Eilyddion: 16-Adriaan Strauss, 17-Gurthro Steenkamp, 18-Coenie Oosthuizen, 19-Peter-Steph du Toit, 20-Siya Kolisi, 21-Ruan Pienaar, 22-JJ Engelbrecht, 23-Willie le Roux.

Mae'r gêm yn dechrau am 5:30yh.

Straeon perthnasol