Sgarlets yn ennill ar draul y Dreigiau

Image caption Er gwaetha ymdrechion y Dreigiau y Sgarlets gafodd y pwyntiau

Sgarlets 21 - 13 Dreigiau Casnewydd Gwent

Y tîm cartref oedd yn fuddugol ym mharc y Sgarlets nos Wener diolch i gais yr un yn yr ail hanner i Chris Knight a'r capten Rob McCusker.

Dim ond y traed sgoriodd bwyntiau yn ystod yr hanner cyntaf, gyda'r cochion yn mynd am egwyl 6 pwynt ar y blaen, diolch i gicio Aled Thomas.

Cerdyn melyn Scott Matthews oedd y trobwynt yn yr ail hanner - cafodd dau gais y Sgarlets eu sgorio yn ei absenoldeb.

Daeth y Dreigiau yn ôl, gyda chais a throsiad gan Kris Burton a chic gosb gan Rhys Jones yn rhoi gobaith iddyn nhw.

Ond doedd dim awydd taflu pwyntiau i ffwrdd ar y tîm cartref ac fe wnaeth cic Josh Lewis y canlyniad yn sicr.

Straeon perthnasol