Apel am wybodaeth am ddyn ar goll

Derek Pontin
Image caption Mae'r Heddlu yn pryderu am ddiogelwch Mr Pontin

Mae Heddlu Gwent yn apelio am wybodaeth wedi i ddyn 82 oed fynd ar goll o'i gartref yn y Coed Duon.

Cafodd Derek Pontin ei weld am y tro diwethaf ddydd Iau Tachwedd 7, ar Bridge Street yn y Coed Duon am tua 16.00yh.

Mae Mr Pontin wedi ei ddisgrifio fel dyn gwyn, 5' 8" ac yn denau.

Roedd yn gwisgo het, cot frown ac yn cario bag ar ei gefn pan gafodd ei weld am y tro diwethaf.

Mae gan Mr Pontin ddiddordeb mewn natur, ac mae'n aml yn crwydro'r ardal o amgylch y Coed Duon.

Dywedodd yr heddlu eu bod yn pryderu am ei ddiogelwch oherwydd ei oed a'r tywydd oer a gwlyb.

Dylai unrhyw un sydd â gwybodaeth am Mr Pontin gysylltu â'r heddlu ar 101 a rhoi'r rhif LOG 379 7/11/13.

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.