Mwy o longau rhwng Caergybi a Dulyn

Irish Ferries Image copyright PA
Image caption Mae'r cwmni yn dweud y bydd y byddsoddiad yn hwb i'r economi

Mae cwmni fferïau yn cynyddu'r nifer o wasanaethau rhwng Ynys Môn ac Iwerddon.

Ar hyn o bryd mae Irish Ferries yn cynnal wyth taith y dydd rhwng Caergybi a Dulyn ar eu llongau, yr Ulysses a'r Jonathan Swift.

Bydd y llong Epsilon, sy'n dal 500 o deithwyr, yn ychwanegu dwy daith ychwanegol bob dydd.

Mae Cyngor Môn yn gobeithio y bydd yn arwain at greu swyddi yn ardal Caergybi.

Dywedodd Irish Ferries mai bwriad y buddsoddiad yw hybu'r marchnadoedd cludiant a thwristiaeth.

Dywedodd cyfarwyddwr marchnata'r cwmni, Tony Kelly: "Mae penderfyniad Irish Ferries i fuddsoddi mewn mwy o wasanaethau ar hyn o bryd yn hwb i adferiad economi'r wlad."

"Rydym yn credu bod Iwerddon wedi troi'r gornel yna ac rydym am fuddsoddi mewn gwasanaethau gwell i'n cwsmeriaid cludiant a thwristiaeth sydd wedi bod yn ffyddlon drwy gydol y bum mlynedd ddiwethaf."

Mae'r cynghorydd Aled Morris Jones, sy'n gyfrifol am ddatblygiad economaidd ar gyngor Môn, yn gobeithio gweld swyddi a buddiannau eraill yn lleol.

"Mae'r cyhoeddiad gan Irish Ferries yn dangos pwysigrwydd y ganolfan drafnidiaeth sy'n cael ei ddatblygu ym Mharc Cybi gan y sector breifat," meddai.

Straeon perthnasol