Elusen: Diffyg gwybodaeth yn peryglu plant mewn gofal

Plentyn
Image caption Mae'r awdurdod gofal cymdeithasol yn dweud bod mesurau mewn grym i ddiogelu plant

Mae diffyg rhannu gwybodaeth gan awdurdodau lleol yn peryglu rhai o blant mwyaf bregus Cymru, yn ôl elusen.

Mae un o elusennau plant mwyaf blaenllaw Cymru, Tros Gynnal Plant, wedi dweud wrth BBC Cymru bod plant mewn gofal sy'n symud o ardal i ardal yn cael eu targedu gan bedoffiliaid.

Dywedodd hefyd nad yw'r plant yma yn derbyn addysg ddigonol na gofal iechyd a chefnogaeth gan wasanaethau cymdeithasol.

Mae Cymdeithas Cyfarwyddwyr Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru yn dweud bod mesurau mewn grym i sicrhau bod risgiau yn cael eu darganfod a'u taclo.

Chwarter yn symud

Mae mwy na chwarter o'r 5,900 o blant mewn gofal yng Nghymru yn byw y tu allan i'r sir sydd â gofal amdanynt.

Weithiau maent yn symud oherwydd bod hynny'n fwy diogel ond yn aml mae rhaid symud oherwydd nad oes digon o lefydd gofal ar gael yn eu hardaloedd eu hunain.

Pan mae plant yn cael eu symud o'r sir, dylai'r cyngor sydd yn eu symud rhoi gwybod i'r cyngor sy'n gyfrifol am le mae'r plentyn yn symud iddo.

Yna dylai'r cynghorau gyd-weithio i sicrhau bod y lleoliad newydd yn addas ar gyfer anghenion yr unigolyn.

Ond mae ymchwiliad gan BBC Cymru wedi darganfod nad yw cynghorau yn dilyn y drefn yma bob tro.

Yn 2012/13 roedd o leiaf 60 achos pan roedd cynghorau wedi methu rhannu gwybodaeth am blentyn oedd yn symud rhwng ardaloedd.

Dim ond tri awdurdod oedd wedi cofnodi'r wybodaeth yma - doedd yr 19 awdurdod arall heb gadw gwybodaeth am y plant.

'Agored i niwed'

Mae Jackie Murphy, cyfarwyddwr gweithredol Tros Gynnal Plant yn dweud bod nifer yr achosion yn llawer uwch mewn gwirionedd.

Dywedodd bod plant yn aml yn cael eu symud ymhell o'u cartrefi ac yn cael eu colli yn y system.

"Mae llawer o dystiolaeth i ddangos eu bod yn agored i niwed," meddai.

"Yn aml maent yn cael eu rhoi mewn cartrefi gofal preifat neu ysgolion. Rydym yn gwybod bod y rhain yn cael eu targedu gan bedoffiliaid.

"Mae pobl ifanc eisiau cael eu derbyn a chael bod hefo pobl ifanc eraill felly maent yn gallu bod yn agored iawn i niwed."

'Gofal gwael'

Cafodd Lucy, 20, ei symud o leiaf 10 gwaith yn y cyfnod o bum mlynedd yr oedd hi mewn gofal. Aeth allan o'r sir wreiddiol o leiaf dair gwaith a dywedodd bod safon y gofal yn wael.

"Un dydd o nhw 'di dweud fy mod i'n mynd i Gwmbrân, felly o ni 'di cymryd e'n ganiataol byddwn i'n mynd i fyw yna," meddai.

"Ond be' ddigwyddodd, nes i gwrdd â rhywun mewn maes parcio yng Nghwmbrân, a wnaethon nhw ddweud wrthai fy mod i'n mynd i Fanceinion i fyw.

"Aethon nhw a fi i gartref preswyl, wnaethon nhw siarad gyda'r gweithwyr yno am ryw ddeg munud ac wedyn wnaethon nhw jyst gadael fi yna.

"Odd 'da fi'r dillad o ni'n gwisgo a chynnwys handbag - dyna'i gyd. O nhw di rhoi 11 punt i mi brynu dillad a phum punt o arian poced."

Roedd Lucy yn 14 oed ar y pryd, ond ni ddaeth ei gweithiwr cymdeithasol i'w hymweld yn ystod ei chyfnod ym Manceinion.

Y tro cyntaf cafodd ei symud allan o'r sir oedd i Sir Fynwy, ond doedd ganddi ddim syniad lle'r oedd hi.

"O nhw 'di mynd a fi i dŷ fferm a jyst gadael fi yno am nifer o wythnosau.

"Odd y fenyw yno digon neis ond dim 'na'r pwynt, o ni ddim yn gwybod ble o'n i, a dwi dal ddim yn siŵr ble o'n i 'di mynd."

Dywedodd ei bod hi wedi cysgu mewn parciau weithiau yn ystod ei chyfnod mewn gofal, ac wedi defnyddio cyffuriau ac alcohol i ymdopi.

'Lleiafrif o blant'

Dywedodd Cymdeithas Cyfarwyddwyr Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru: "Mae lleiafrif o blant yn cael eu rhoi y tu allan i ardal eu hawdurdod lleol. Mae hyn yn aml i gyrraedd anghenion cymhleth i sicrhau eu diogelwch.

"Mae'n benderfyniad pwysig ym mywyd plentyn, oherwydd gall plant sy'n byw i ffwrdd o'u hardal fod yn fwy agored i niwed, ond mae mesurau mewn grym i sicrhau bod risg yn cael ei gydnabod a'i daclo."

Mae'r gymdeithas yn nodi bod anghysondeb yn y ffordd mae gwybodaeth am blant yn cael ei rannu, ond maent yn dweud mai'r awdurdod sydd yn symud y plentyn sy'n gyfrifol am hynny.

"Nid yw'n gywir i ddweud bod plant sy'n cael eu rhoi mewn awdurdodau lleol eraill yn cael eu 'colli' yn y system nac yn cael eu hesgeuluso."

Er hynny, mae Jackie Murphy yn poeni y gall y sefyllfa waethygu oherwydd toriadau ariannol i lywodraeth leol.

Mae hi'n dweud bod angen i blant gael ffordd o fynegi eu barn o fewn y system.

"Mae plant a phobl ifanc yn dweud drwy'r amser bod hynny'n helpu nhw i wneud synnwyr o'r system a beth sy'n digwydd iddyn nhw, a rhoi llais iddyn nhw yn y system.

"Yn sicr mae'n rhoi'r teimlad bod ganddyn nhw fwy o reolaeth yn eu bywydau, a bod rhywun yn gwrando arnyn nhw."

Straeon perthnasol

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.