Hel atgofion am Theatr Gwynedd

Theatr Gwynedd
Image caption Theatr Gwynedd fydd testun arddangosfa newydd gan Pontio

Mae cynllun newydd wedi ei lansio i ddathlu'r hen Theatr Gwynedd ym Mangor.

Mae Pontio, yn ganolfan celfyddydau newydd sy'n cael ei adeiladu yn y ddinas, am ddathlu cyfraniad yr hen theatr i fywyd diwylliannol a chelfyddydol Bangor a Chymru gyfan.

Y bwriad yw cynnal arddangosfa newydd ym mis Hydref 2014.

Mae Pontio yn gofyn i bobl o bob rhan o Gymru rannu eu hoff atgofion am y theatr i'w cynnwys yn yr arddangosfa.

Dywed Pontio mai'r bwriad yw creu arddangosfa amlgyfrwng fydd yn "arddangos rhaglenni hanesyddol, posteri, setiau llwyfan a llawer mwy", a'r gobaith yw "cofio a dathlu sefydliad oedd yn agos at galonnau llawer, ac a gyfrannodd mewn ffordd mor bwysig at fywyd diwylliannol Cymru am ddegawdau".

Mae Pontio, mewn partneriaeth ag Amgueddfa ac Oriel Gelf Gwynedd, eisiau clywed hoff hanesion neu straeon unigryw gan bobl am Theatr Gwynedd, i sicrhau bod ystod eang o atgofion yn cael eu bwydo i mewn i'r arddangosfa.

Image caption Pontio yw'r ganolfan celfyddydau newydd sy'n cael ei adeiladu ym Mangor

'Dathlu cyfraniad'

Dywedodd Cyfarwyddwr Artistig Pontio, Elen ap Robert: "Mae gan genedlaethau o bobl o bob oed ac o bob cwr o Gymru, a thu hwnt, atgofion arbennig iawn o Theatr Gwynedd.

"Gallai fod yn weld drama hynod bwerus, pantomeim yn blentyn neu droedio'r llwyfan fel actor proffesiynol am y tro cyntaf.

"Efallai eu bod yn atgofion mwy personol - efallai'n wir mai yno y gwnaethoch gyfarfod â'ch darpar ŵr neu wraig.

"Os oes gennych atgof am Theatr Gwynedd yr hoffech ei rannu gyda ni, byddem yn falch iawn o'i glywed."

Gall unrhyw un sydd am rannu atgof e-bostio: gwaddol@pontio.co.uk neu drwy'r post at: Pontio, Prif Adeilad y Celfyddydau, Ffordd y Coleg, Bangor.

Mae cyfle i bobl rannu eu hatgofion yn siop Pontio ar y Stryd Fawr ym Mangor hefyd.

Straeon perthnasol

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.