Tân teiars ger Caerdydd

Tan Image copyright Esme Charles
Image caption Mae tua 20 tunnell o deiars mewn fflamau

Mae diffoddwyr tân yn taclo tân deiars ar dir fferm ger Caerdydd.

Y gred yw bod tua 20 tunnell o deiars ar dân ym Mhentyrch, ac mae mwg du i'w weld yn yr ardal.

Dywedodd Gwasanaeth Tân De Cymru eu bod wedi gyrru dwy injan, o Drelái a'r Eglwys Newydd, ac un injan arbennig o Gaerffili.

Dywedodd y gwasanaeth dân eu bod wedi cael gwybod am y digwyddiad gan yrwyr ar yr M4 a'r A470.