Huw Edwards yn arwain apêl i achub Capel Jewin, Llundain

Capel Jewin Image copyright other
Image caption Capel Jewin yw'r sefydliad crefyddol Cymraeg hynaf yn Llundain

Mae'r cyflwynydd adnabyddus Huw Edwards yn dweud bod yr ymgyrch i geisio diogelu un o gapeli Llundain at y dyfodol wedi cael 'dechrau da iawn'.

Capel Jewin yn ardal Smithfield yw'r sefydliad addoli Cymraeg hynaf yn Llundain, ac mae Huw Edwards am weld ei ddrysau yn aros ar agor.

Roedd Mr Edwards, prif gyflwynydd newyddion y BBC, wedi ysgrifennu erthygl ar dudalen Facebook Ymddiriedolaeth Cymry Llundain yn annog Cymry'r ddinas i fynychu'r addoldy ddydd Sul, Tachwedd 17.

Mae'r capel - sy'n un o bum capel Cymraeg Eglwys Bresbyteraidd Cymru yn Llundain - yn wynebu dyfodol ansicr, a dywed Mr Edwards ei bod yn bwysig diogelu'r etifeddiaeth.

Gwasanaeth arbennig

Dywedodd fod henaduriaid y capel wedi cwrdd rhai misoedd yn ôl, "yn wyneb pryder gwirioneddol am yr achos."

"Bydd angen adfywiad a hynny'n fuan," meddai Mr Edwards, sydd hefyd yn Llywydd Ymddiriedolaeth Canolfan Cymry Llundain.

"Mae'n bwysig i gymdeithas Cymry Llundain, hwn yw'r capel Cymraeg hynaf yn y ddinas ers cael ei sefydlu yn 1774 a phe bai'n cau byddai'n ergyd i draddodiad ac etifeddiaeth Cymry Llundain."

Image caption Mae Huw Edwards yn awyddus i ddenu aelodau newydd i Gapel Jewin

Ar hyn o bryd mae Huw Edwards yn ymchwilio i hanes capeli Cymraeg Llundain ar gyfer llyfr fydd yn cael ei gyhoeddi pan fydd yr Eisteddfod Genedlaethol yn ymweld â Llanelli yn 2014.

"Fe ddaeth criw ohonom at ein gilydd, a gyda chefnogaeth y Parchedig Richard Brunt a'r capel, fe benderfynwyd gwahodd Cymry Llundain i wasanaeth arbennig ar ddydd Sul Tachwedd 17," meddai Mr Edwards, sy'n aelod o Gapel Cymraeg Clapham Junction.

"Byddwn yn ceisio denu aelodau newydd neu ddenu hen aelodau Jewin yn ôl.

"Mae'n debyg fod rhai oedd yn aelodau dros 40 mlynedd yn ôl - a'u plant nhw erbyn hyn - yn dal yn byw yn Llundain a gallai hynny olygu rhwng 100 a 200 o bobl".

Ychwanegodd bod cyfle hefyd i rai nad oedd am ymaelodi i gefnogi drwy wirfoddoli i ysgwyddo ychydig o'r baich.

'Dechrau da iawn'

Wedi'r gwasanaeth ddydd Sul, dywedodd Huw Edwards ei fod yn teimlo'n "hyderus" am y dyfodol.

"Dwi ddim yn disgwyl cael 500 o bobl drwy'r drysau o fewn chwe mis.

Nid oes modd chwarae darnau sain a fideo ar eich dyfais
Adroddiad Alun Thomas

"Y gwir yw bod rhaid i ni edrych ar dwf yn rhannol.

"Mae'n rhaid bod yn realistig. Ond o safbwynt heddi, mae mwy o bobl wedi dod na'r arfer - ma' hynny'n beth da.

"Ma' pobl wedi mwynhau'r gwasanaeth, pobl wedi cael neges bwrpasol a phobl wedi dweud eu bod nhw ishe cyfrannu - wel, ma' hynny'n ddechrau da iawn."

"Mae cynnal capel yng nghanol Llundain yn faich ac mae'r aelodau presennol fel ysgrifenyddes y capel Llinos Morris wedi gwneud gwaith gwyrthiol - ond mae angen mwy o ddwylo."

Y gobaith yw defnyddio'r addoldy fel adnodd i Gymry Llundain, gan fod yn lle hefyd ar gyfer cyngherddau, dosbarthiadau Cymraeg ac yn ganolfan i sefydliadau a mudiadau Cymraeg.

'Ceisio cryfhau'

Dywedodd y Parchedig Richard Brunt ei fod o'n hynod ddiolchgar am y gefnogaeth mae Mr Edwards ac eraill wedi ei roi i'r capel a hefyd y gwaith ymchwil mae o eisoes wedi ei wneud i hanes capeli Cymraeg Llundain.

"Mae gennym tua 50 o aelodau ac maen nhw'n teithio o bob rhan o'r ddinas er mwyn mynychu'r gwasanaethau yng nghanol y ddinas.

"Mae'r aelodau yn mynd yn hŷn ac weithiau mae'r gwaith teithio yn anodd.

"Mae cymdeithas Cymry Llundain yn parhau yn gryf, yn mynychu corau a'r ganolfan Gymraeg - ond rydym yn ceisio cryfhau ein haelodaeth drwy apelio at y bobl yma."

"Mae'r dyfodol yn ansicr ac mae costau cynnal a chadw'r adeilad wedi gorfodi henaduriaid i ystyried pob posibilrwydd - gan gynnwys cau'r adeilad."

"Ond mae yna fwriad i gynnal ymgyrch er mwyn achub a chadw'r capel eiconig."

Straeon perthnasol

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.