Parciau cenedlaethol yn werth £1 biliwn

Brecon Beacons Image copyright Brecon Beacons National Park Authority
Image caption Mae Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog yn denu 4.15 miliwn o ymwelwyr y flwyddyn, medd yr adroddiad

Mae adroddiad newydd yn honni bod y tri pharc cenedlaetholyng Nghymru yn denu dros 12 miliwn o ymwelwyr bob blwyddyn gan greu £1 biliwn i'r economi.

Mae'r adroddiad gan y corff sy'n cynrychioli Parciau Cenedlaethol Eryri, Bannau Brycheiniog ac Arfordir Penfro yn dweud mai'r tiroedd yw "ysgyfaint y genedl".

Dywed yr adroddiad bod ymwelwyr â pharciau cenedlaethol Cymru'n yn gwario mwy y pen na'r rhai sy'n ymweld â pharciau Lloegr a'r Alban.

Ond mae'r Ffederasiwn Busnesau Bach (FSB) Cymru yn dweud fod gan bobl bryderon am y modd y mae'r parciau'n gweithredu.

'Cyfran uwch'

Cafodd yr astudiaeth ei gomisiynu gan Barciau Cenedlaethol Cymru, Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru a Chyfoeth Naturiol Cymru, ac fe gafodd ei pharatoi gan gwmni ymgynghorwyr ARUP.

Fe gostiodd tua £24,000 ac fe ddechreuodd y gwaith ar ddechrau'r flwyddyn.

Dywed yr adroddiad bod y mwyaf o barciau cenedlaethol Cymru - Eryri - yn denu 4.27 miliwn o ymwelwyr y flwyddyn, gydag Arfordir Penfro'n ail gyda 4.2 miliwn a Bannau Brycheiniog yn drydydd agos gyda 4.15m.

Mae'r adroddiad yn mynnu bod hyn yn cyfateb i "chwistrelliad blynyddol i economi Cymru o tua £1 biliwn".

Mae'r adroddiad yn ychwanegu: "Yr hyn sy'n bwysig yw bod y parciau cenedlaethol yng Nghymru yn denu cyfran uwch o ymwelwyr sy'n aros dros nos, gydag ymwelwyr ar gyfartaledd yn treulio 2.26 diwrnod yn y parciau o gymharu â 1.59 diwrnod yn Lloegr a'r Alban.

"Am eu bod yn fwy tebygol o aros dros nos, mae gwariant yr ymwelwyr ar gyfartaledd i barciau Cymru yn uwch (£87 y pen) nag yng ngweddill y DU (£60 y pen)."

Mae casgliadau'r adroddiad yn seiliedig ar waith ymchwil gan nifer o sefydliadau gan gynnwys Llywodraeth Cymru, y Swyddfa Ystadegau Gwladol, amcangyfrifon am wariant ymwelwyr a ffynonellau eraill.

'Cymunedau byw'

Dywedodd y gweinidog diwylliant a chwaraeon John Griffiths bod y parciau yn gaffaeliad i Gymru a'i heconomi.

Wrth siarad ar ran Parciau Cenedlaethol Cymru dywedodd Aneurin Phillips - prif weithredwr Parc Cenedlaethol Eryri - mai'r parciau yw "ysgyfaint ein cenedl".

"Yn wahanol i barciau cenedlaethol America - sydd ar y cyfan yn ardaloedd lle does neb yn byw ynddynt - mae parciau cenedlaethol Cymru yn gymunedau byw gyda dros 80,000 o bobl yn byw y tu mewn i'w ffiniau, gan ddarparu gwaith i tua 30,000 o bobl," ychwanegodd.

"Mae'r adroddiad yma wedi rhoi cyfle i ni weld y buddion economaidd a ddaw o'n parciau cenedlaethol, ac yn naturiol rwy'n hapus iawn gyda'r casgliadau."

Cynllunio

Ond doedd yr FSB ddim mor hapus. Yn ddiweddar fe gyhoeddodd y mudiad adroddiad ar gynllunio y tu mewn i'r parciau cenedlaethol, ac un o'r prif bwyntiau oedd "nad oedd ymatebwyr yn credu bod awdurdodau'r parciau cenedlaethol yn deall busnesau a materion economaidd".

Roedd Iestyn Davies, pennaeth materion allanol gyda FSB Cymru, yn amau os cafodd yr adroddiad yr adroddiad newydd ei gomisiynu fel ymateb i'w hastudiaeth nhw, gan ddweud:

"Gallwn ond ystyried bod yr adroddiad yma yn gydnabyddiaeth o bwysigrwydd datblygiad economaidd oddi mewn i barciau cenedlaethol Cymru.

"Mae FSB Cymru yn gobeithio bod y gydnabyddiaeth yna'n cael ei adlewyrchu yn y ffordd y mae'r parciau a'u swyddogion yn delio gyda busnesau bach, yn enwedig ym maes cynllunio."

Straeon perthnasol

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.