Wrecsam 3-2 Gateshead

Clwb Pêl-droed Wrecsam Image copyright Other

Wrecsam 3-2 Gateshead

Mae tymor Wrecsam yn gwella wedi iddyn nhw ennill yn erbyn Gateshead ar y Cae Ras nos Fawrth.

Dechreuodd pethau'n dda i dîm Andy Morrell, a'r tîm cartref aeth ar y blaen wedi 23 munud.

Andy Bishop oedd y sgoriwr yn dilyn gwaith da gan David Artell.

Roedd golwr Gateshead eisoes wedi arbed cynnig gan Brett Ormerod, ac fe aeth cynnig gan Joe Clarke fodfeddi'n rhy uchel.

Ond yna daeth 90 eiliad i'w hanghofio. Wedi 35 munud fe ddaeth Gateshead yn gyfartal wrth i James Marwood rwydo.

O fewn munud a hanner roedd yr ymwelwyr ar y blaen diolch i gynnig Adam Boyes.

Cyn yr egwyl fe gafodd Wrecsam ambell gyfle arall gyda Rob Ogleby'n penio'r un gorau heibio'r postyn.

Wedi'r egwyl bu Wrecsam dan bwysau am gyfnodau wrth i'r ymwelwyr ddangos pam eu bod yn llawer uwch na'r Dreigiau yn y tabl.

Ond er hynny fe lwyddodd Wrecsam i ddod yn gyfartal wedi 77 munud. Roedd James Curtis yn euog o drosedd ar Artell yn y cwrt cosbi, ac Andy Bishop oedd yn llwyddiannus gyda'r gic o'r smotyn.

Gyda'r dyfarnwr yn ychwanegu chwe munud am anafiadau ar ddiwedd y 90, daeth un cyfle arall i Wrecsam.

Arwr y noson, Andy Bishop, gwblhaodd ei hat-tric i gipio buddugoliaeth bwysig dros ben i Wrecsam.