Gwersi ffaglau 'heb eu dysgu'

John Hill gyda'i dad, hefyd yn John
Image caption Fe geisiodd John Hill yn ofer i achub bywyd ei dad wedi i'r ffagl ei daro

Mae mab dyn a laddwyd gan ffagl mewn gêm bêl-droed 20 mlynedd yn ôl wedi dweud bod "gwersi heb gael eu dysgu" wedi'r trychineb.

Roedd John Hill yn sefyll wrth ymyl ei dad 67 oed, hefyd o'r enw John, pan gafodd ei daro ar ddiwedd y gêm rhwng Cymru a Romania ym Mharc yr Arfau yng Nghaerdydd yn 1993.

Fe gafodd dau ddyn o Wrecsam eu carcharu wedi'r digwyddiad, ond mae bomiau mwg yn dal i gael eu tanio mewn gemau - y diweddaraf fis diwethaf.

Dywedodd Mr Hill o Ferthyr Tudful: "Roedd hynny'n drist ac yn bryderus iawn."

Image caption Cafodd dau frawd eu carcharu am ddynladdiad ar ôl tanio'r ffagl a laddodd John Hill

'Awyren'

Wrth siarad yn gyhoeddus am y tro cyntaf ers y digwyddiad, dywedodd Mr Hill wrh BBC Cymru sut y ceisiodd achub ei dad, ond yn ofer.

Roedd y ddau wedi teithio i Gaerdydd i weld y gêm olaf yn rowndiau rhagbrofol Cwpan y Byd 1994 rhwng Cymru a Romania. Wedi'r chwib olaf fe daniwyd ffagl o'r ochr draw i'r stadiwm, ac fe darodd ei dad.

"Gallaf ond ddisgrifio'r peth fel fy mod yn meddwl bod awyren ar fin taro'r stadiwm," medd Mr Hill.

"Fe glywais i'r swn a throi fy mhen, ond doeddwn i'n gweld dim - y peth nesaf fe ddisgynnodd fy nhad.

"Wnes i ddim cysylltu'r ddau beth i ddechrau. Roeddwn i'n credu bod fy nhad wedi cael trawiad.

"Yna fe wnes i bwyso i geisio codi fy nhad ac roedd gwaed dros fy nwylo.

Image caption Dywedodd John Hill na wnaeth ei fam ddod dros colli ei gŵr

"Rwy'n cofio gweiddi am gymorth - bod rhywbeth wedi digwydd i fy nhad."

'Heb ddysgu'

Fe wnaeth dau frawd gyfadde' i ddynladdiad Mr Hill, ac fe gafodd y ddau ei carcharu am dair blynedd.

Dywedodd Mr Hill nad oedd yn dal dîg yn erbyn y ddau, ond ychwanegodd na wnaeth ei fam - a fu farw yn 2005 - erioed ddod dros colli ei gŵr.

Ym mis Hydref fe gafodd bom mwg ei daflu yn ystod y gêm Uwchgynghrair rhwng Aston Villa a Tottenham Hotspur, gan daro ac anafu y llimanwr.

Dywedodd Mr Hill nad oedd gwersi wedi eu dysgu ar ôl yr hyn ddigwyddodd i'w dad.

"Iawn, dim ond bom mwg oedd hwn, ond mae hwnnw yn dal yn arf a achosodd anaf.

"20 mlynedd ar ôl yr hyn ddigwyddodd i fy nhad, does yr un wers wedi cael ei dysgu."