Tân mewn ysgol yn Sir Benfro

Mae diffoddwyr tân wedi bod yn taclo fflamau mewn ysgol yn Sir Benfro.

Roedd y tân yn nhô'r adeilad a does 'na neb wedi ei hanafu.

Mi anfonwyd dau o griwiau o Hwlffordd i Ysgol Fenton fore Gwener.

Mae 380 o ddisgyblion yn mynychu'r ysgol.

Mi fydd yr ysgol yn ail agor 'fory ond mi fydd y dosbarthiadau i'r plant lleiaf yn aros ar gau am fod yna waith trwsio i'w wneud yno.

Parhau mae'r ymchwiliad i achos y tân.