Gormod o gleifion yn y ddalfa?

Dalfa
Image caption Mae pryderon ynglŷn â'r effaith gallai cyfnod yn y ddalfa ei gael ar gleifion

Mae pryderon wedi cael eu codi ynglŷn â'r nifer o bobl sydd â phroblemau iechyd meddwl sy'n cael eu cadw yn y ddalfa gan Heddlu De Cymru.

Mae ffigyrau ddaeth i law BBC Radio Wales yn dilyn cais rhyddid gwybodaeth yn dangos fod cynnydd o 32% wedi bod yn nifer y bobl sy'n cael eu dal yn y ddalfa wedi dioddef argyfwng iechyd meddwl.

Yn ôl Dr William Van Veenhuysen, pennaeth Coleg Brenhinol y Seiciatryddion yng Nghymru, gall hynny arwain at wneud i gleifion deimlo fel troseddwyr ac wedi eu stigmateiddio.

Yn ymateb ar ran y llu dywedodd Alun Michael - Comisiynydd Heddlu a Throsedd De Cymru - ei fod yn "bryderus iawn" am bobl sy'n cael eu dal mewn cell pan nad yw hynny yn addas.

'Ddim yn addas'

Mae'r ffigyrau yn dangos bod 706 o bobl wedi cael eu hebrwng i'r ddalfa yn dilyn argyfwng iechyd meddwl gan Heddlu De Cymru yn 2012/13.

533 oedd y nifer cyfatebol am yr un cyfnod yn y flwyddyn flaenorol - sy'n golygu bod y nifer wedi cynyddu 173 mewn blwyddyn.

Yn ôl Alun Michael - oedd yn siarad ar ran Heddlu De Cymru - mae'r ffigyrau'n codi nifer o bryderon: "Rwy'n poeni'n arw am bobl sy'n canfod eu hunain mewn cell heddlu pan nad yw'n lle addas iddyn nhw fod.

"Yn ail, rwy'n pryderu am y pwysau sydd ar yr heddlu wrth iddyn nhw geisio delio mewn ffordd addas â phobl sydd angen triniaeth yn hytrach na bod mewn cell.

"Yn drydydd rwy'n pryderu am y pwysau ariannol sydd ynghlwm wrth hyn."

'Teimlo fel troseddwr'

Mae Dr van Veenhuyzen yn credu bod cell yn lle "cwbl amhriodol" i gadw person sydd â phroblemau iechyd meddwl.

Dywedodd: "Dyw cell heddlu ddim wedi ei haddasu a dyw'r heddlu ddim wedi ei hyfforddi ar gyfer darparu pobl sydd â thrafferthion iechyd meddwl a'r math o asesiad a'r cymorth maen nhw ei angen.

"Mae'n mynd i fod yn brofiad anodd i rywun sydd â thrafferthion iechyd meddwl neu a allai fod yn sâl i gael ei gymryd i gell.

"Yr hyn rwy'n olygu yw fy mod i'n pryderu y gallai'r math hynny o broses arwain pobl i deimlo fel troseddwyr neu i raddfa teimlo eu bod nhw'n cael eu stigmateiddio.

"Rwy'n dychmygu y byddai hynny'n brofiad fyddai'n peri gofid mawr."

Cytundeb llwyddiannus

Dyw'r ffigyrau ar gyfer Heddlu Dyfed Powys a Heddlu Gwent heb newid rhyw lawer ers y flwyddyn flaenorol ond mae Heddlu Gogledd Cymru wedi goruchwylio dros ostyngiad anferth o 80% yn nifer y cleifion sy'n cael eu dal yn y ddalfa.

Mae'n debyg mae'r prif reswm dros hyn yw bod y llu wedi dod i gytundeb gyda Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr sy'n golygu bod dyletswydd ar swyddogion yr heddlu i beidio â mynd a pherson i'r ddalfa os yw'n dangos symptomau o broblemau iechyd meddwl.

Yn hytrach maen nhw'n cael eu trin fel cleifion ac yn cael eu cludo i un o dair uned iechyd meddwl yr ardal er mwyn cael eu hasesu gan arbenigwr.

Y Ditectif Sarjant Graham Opie sy'n gyfrifol am bolisi iechyd meddwl y llu ac mae'n dweud mai'r rheswm allweddol dros ffigyrau cadarnhaol y llu yw bod unedau'n cael eu staffio yn y nos.

"Os rwy'n bod yn onest dyw'r ddarpariaeth tu allan i oriau gwaith ar gyfer rhai o'm cyd weithwyr yn y gwasanaethau iechyd a iechyd meddwl ddim wedi llwyddo i ymdopi a'r galw.

"Dim ond yn ddiweddar iawn mae'r gydnabyddiaeth bod gwella'r gwasanaeth tu allan i'r oriau gwaith gan sicrhau adnoddai cywir iddyn nhw wedi golygu bod cleifion yn cael ei gweld a'u trin yn llawer cynt."

Wythnos nesaf yn Nhŷ'r Cyffredin bydd ASau yn trafod y gwahanol ffyrdd mae lluoedd heddlu ledled Prydain yn delio gydag unigolion sydd â phroblemau iechyd meddwl.

Bydd y drafodaeth yn cael ei arwain gan AS Pen-y-bont ar Ogwr Madeline Moon.

Straeon perthnasol

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.