Donaldson yn dechrau'r gryf yn Dubai

Jamie Donaldson Image copyright Getty Images
Image caption Mae Jamie Donaldson o fewn dwy ergyd i'r brig

Fe gafodd y Cymro Jamie Donaldson ddiwrnod da yn rownd gyntaf Pencampwriaeth Cylchdaith y Byd yn Dubai.

Cafodd y golffiwr o Bontypridd rownd o 68 i'w adael bedair ergyd yn well na'r safon ar ddiwedd y diwrnod cyntaf.

Mae Donaldon ddwy ergyd tu ôl i Alejandro Canizares, sy'n arwain, ac yn gyfartal gyda Henrik Stenson o Sweden sydd ar y blaen yn y tabl Ras i Dubai, sef pencampwriaeth y flwyddyn i gylchdaith Ewrop ac Asia.

Ond pe bai Stenson yn cael diwrnod gwael ddydd Gwener mae Donaldson yn un o naw chwaraewr all fanteisio i gipio'r brif wobr.

Pencampwriaeth Cylchdaith y Byd yn Dubai - y rownd gyntaf :-

1. A.Canizares (Sbaen) = -6 (66 )

=2. K Aphibarnrat (Thailand), M Fraser (Awstralia) = -5 (67)

=4. H Stenson (Sweden), J Donaldson (Cymru), R Cabrera-Bello (Sbaen) = -4 (68)