Pencampwriaeth Byd i Gaerdydd

Hanner marathon Caerdydd
Image caption Mae cwrs hanner marathon Caerdydd yn dechrau a gorffen ger y Castell

Mae dinas Caerdydd wedi ennill yr hawl i gynnal pencampwriaeth Hanner Marathon y Byd yn 2016.

Mae'r bencampwriaeth yn un o ddigwyddiadau mawr y Sefydliad Rhyngwladol Cymdeithasau Athletau (IAAF), ac fe wnaethon nhw'r cyhoeddiad yn Monaco fore Gwener.

Hwn fydd y digwyddiad mawr IAAF cyntaf i gael ei gynnal yng Nghymru.

Nod y trefnwyr yw denu dros 20,000 o redwyr amatur i gystadlu ochr yn ochr â rhedwyr elît y byd.

Bydd y ras yn cael ei redeg ar gwrs presennol hanner marathon Caerdydd, a breuddwyd y trefnwyr yw denu'r pencampwr byd ac Olympaidd Mo Farah i gystadlu fel rhan o'i baratoad ar gyfer Gemau Olympaidd 2016 yn ddiweddarach y flwyddyn honno.

Dywedodd llefarydd ar ran y trefnwyr: "Mae hwn yn foment gofiadwy ac yn garreg filltir i Gymru ac i ddinas Caerdydd."

Ym mis Hydref fe dorrwyd y record am hanner marathon Caerdydd wrth i Lentaknai Lengurisi o Kenya orffen y ras mewn 61 munud a 51 eiliad.

Ymateb

Dywedodd prif weithredwr Athletau Cymru Matt Newman: "Mae hwn yn gaffaeliad gwych i Gaerdydd ac yn glod i'r gwaith diflino sydd wedi ei wneud gan Hanner Marathon Caerdydd dros y degawd diwethaf."

Ychwanegodd y Prif Weinidog Carwyn Jones: "Dyma'r diweddaraf mewn cyfres o ddigwyddiadau mawr i gael eu cynnal yng Nghymru, ac mae gennym bellach enw da am gynnig croeso cynnes Cymreig.

"Rwy'n credu bod presenoldeb rhai o redwyr gorau'r byd yn rhoi cyfle arbennig i Gymru a'r IAAF i ddangos Cymru i'r byd."

Steve Brace yw cyfarwyddwr y cwrs yng Nghaerdydd a dywedodd:

"Mae'r cwrs newydd a ddyfeisiwyd yn 2012 wedi dal dychymyg rhedwyr o bob safon.

"Mae'r ymateb wedi bod yn wych, ac rydym yn credu bod amser o dan 60 munud yn bosibl o dan yr amodau iawn a'r ewyllys gan yr athletwyr.

"Mae'r ffaith bod yr IAAF bellach yn caniatáu rhedwyr o bob gallu i ymuno yn ras Pencampwriaeth y Byd yn ei wneud yn ras sy'n apelio'n fawr i'r gymuned rhedeg."

Straeon perthnasol

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.