Corff dyn wedi ei ddarganfod

Mae'r heddlu wedi enwi'r dyn y cafwyd hyd i'w gorff brynhawn Gwener fel Mark Skirpan.

Mi ddaeth yr heddlu o hyd i'r corff yn ardal pwll Margam am 1pm.

Roedd Mr Skirpan wedi bod ar goll ers ddydd Llun 11 Tachwedd.

Dyw'r heddlu nhw ddim yn trin ei farwolaeth fel un amheus.