Gweilch 13 - 21 Gleision

Gleision
Image caption Fe sgoriodd Humberstone 11 pwynt pwysig i'r Gleision

Mae'r Gleision wedi curo'r Gweilch yn stadiwm y Liberty yn ail gêm cwbl Gymreig Cwpan yr LV.

Troed Simon Humberstone oedd y gwahaniaeth rhwng y ddau dîm wrth iddo lwyddo i gael 11 o bwyntiau nos Wener - y tro cyntaf iddo ddechrau gêm i'r Gleision.

Llwydodd i drosi un o'r ceisiau ddaeth gan James Down a Lewis Jones ac fe gafodd naw pwynt arall wrth iddo gadw ei ben gyda dwy gôl gosb ac un gôl adlam.

Sgoriodd capten y Gweilch unig gais y gêm iddyn nhw, ond doedd hynny ddim yn ddigon.

Y Gweilch oedd ar y blaen 13-11 ar yr hanner ond daeth y Gleision yn ôl gydag angerdd i guro'r gêm.

Straeon perthnasol