Casnewydd yn bedwerydd

Mae Casnewydd bellach yn un o'r safleoedd ail gyfle yn yr Ail Adran yn dilyn buddugoliaeth haeddiannol yn erbyn Hartlepool United.

Maen nhw bellach yn bedwerydd yn y gynghrair.

Yr amddiffynwr Harry Worley gafodd y gôl gyntaf gan benio'i mewn o groesiad Robbie Wilmot.

Conor Washington gafodd yr ail - ei seithfed y tymor hwn - wrth rwydo hanner ffordd drwy'r ail hanner.