TNS yn curo, Airbus yn colli

Mae'r Seintiau Newydd bellach dri phwynt o flaen Airbus ar frig Cynghrair Cymru.

Lido Afan 1 - 2 Y Seintiau Newydd

Daeth y tîm sydd ar y gwaelod o fewn trwch blewyn i gipio pwynt yn erbyn y pencampwyr yn Stadiwm Marston.

Roedd Chris Hartland ar dân unwaith eto i'r tîm cartref gan gipio gôl yn yr hanner cyntaf - fe sgoriodd ddwy gôl ddydd Sadwrn diwethaf hefyd.

Ac fe lwyddodd Lido i gadw'r fantais. Nes y 56fed munud hynny yw.

Chris Marriott sgoriodd gyda chic rydd arbennig i'w gwneud hi'n gyfartal, ac roedd hi'n teimlo'n anochel wedyn y byddai TNS ym mynd a'r triphwynt.

A dyna ddigwyddodd - Mike Wilde yn penio'r fewn yn y munud ola' i dorri calonnau Lido Afan.

Mae Lido Afan yn parhau i fod ar waelod y gynghrair.

Dinas Bangor 1 - 0 Airbus UK

Dechreuodd y gêm gyda munud o dawelwch er cof am y ddau fu farw mewn damwain awyren ym Mrychdyn yn gynharach yn y dydd.

Doedd Airbus heb golli'r tymor hwn nes iddyn nhw golli'n erbyn Aberystwyth nos Wener diwethaf, ond nawr dydyn nhw methu peidio â cholli.

Jamie Petrie gafodd unig gol y gêm gydag ergyd y 65ain munud.

Mae'r canlyniad yn golygu bod Airbus wedi colli tair gem mewn wythnos - fe gollon nhw yn erbyn Bala yng Nghwpan Word yng nghanol yr wythnos hefyd - a fod gan TNS eu mantais arferol ar frig Cynghrair Cymru.

Mae Bangor bellach yn bedwerydd.

Straeon perthnasol